Cyfarwyddiadau
Mae modd i chi ddefnyddio'r system ymgynghori ar-lein i ddarllen dogfennau sydd wedi'u cyhoeddi gan y Cyngor ac i naill ai wneud sylwadau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus neu ddarllen sylwadau eraill ar ddewis safle, mater neu bolisi penodol.
Cofrestru, Mewngofnodi a Gwneud Cais am Gyfrinair Newydd
Defnyddiwch y dolenni sydd i'w gweld ar frig y dudalen yn y bar diogelwch. Mae ganddo gefndir du ac mae'r dolenni gwyn wedi'u lleoli yn y gornel dde uchaf.
Os hoffech chi wneud sylwadau, rhaid cofrestru a mewngofnodi. Does dim rhaid cofrestru na mewngofnodi i ddarllen sylwadau.
Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair
Dewiswch y ffurflen anghofio cyfrinair yn y ddolen ar y ffurflen fewngofnodi. Nodwch y cyfeiriad e-bost cafodd ei ddefnyddio wrth gofrestru, yna cadwch lygad ar eich mewnflwch am gyfarwyddiadau pellach. Os dydych chi ddim yn derbyn e-bost, bwriwch olwg yn eich ffolder sbam. Os dydych chi erioed wedi cofrestru, bydd dim modd i ni anfon e-bost atoch chi.
Cyflwyno sylwadau
Bydd pob dogfen gyfredol sy'n agored i ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei rhestri ar yr hafan dudalen. Dewiswch un o'r dogfennau o'r dudalen gynnwys, cliciwch ar y bennod, lleoliad, mater neu bolisi sydd o ddiddordeb i chi.
I gyflwyno sylwad, cliciwch ar y swigen siarad sydd ar bwys y polisi neu'r lleoliad sydd o ddiddordeb i chi, yna cwblhewch y ffurflen sylwadau ar-lein.
Darllen sylwadau
Mae modd darllen sylwadau heb gofrestru a mewngofnodi.
Dewiswch ddogfen o hafan dudalen y Cynllun Lleol ac yna cliciwch ar y bennod, lleoliad, mater neu bolisi o ddiddordeb i chi o'r dudalen gynnwys.
I weld y sylwadau, cliciwch ar eicon y chwyddwydr sydd ar bwys enw'r lleoliad, mater neu bolisi sydd o ddiddordeb i chi. Bydd crynodeb o'r holl sylwadau sydd wedi'u cyhoeddi yn ymddangos.
Mae nifer y sylwadau sydd wedi'u cyflwyno i'w weld nesaf i'r eicon mewn cromfachau. Nodwch fod yr holl sylwadau sydd wedi'u cyflwyno yn cael eu prosesu gan staff gweinyddol cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Oherwydd hynny, efallai bydd y sylwadau mwyaf diweddar ddim yn ymddangos yn syth.
Agor Mapiau
Lle mae map rhyngweithiol o leoliad neu bolisi, bydd eicon map yn agos i'r disgrifiad neu bolisi'r lleoliad. I weld y map, cliciwch ar yr eicon.
Cysylltwch â ni
Rhaid llenwi pob maes sydd wedi’i farcio â seren.