Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir
Adran 1 - Cyflwyniad
Cefndir
1.1.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) yn diwygio'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn ymdrin â chyfnod 2022-2037. Mae'r CDLl presennol yn ymdrin â chyfnod 2006-2021 ac fe'i mabwysiadwyd yn 2011. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl Diwygiedig) yn adeiladu ar y cynllun presennol. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gan y system gynllunio, gyda'r CDLl Diwygiedig yn graidd iddi, rôl sylweddol i'w chwarae wrth lunio'r Fwrdeistref Sirol i sicrhau ei bod yn tyfu mewn modd cynaliadwy, wrth hefyd ddiwallu anghenion a gwireddu dyheadau'r gymuned.
1.1.2 Y CDLl Diwygiedig fydd y ddogfen statudol ar gyfer cynllunio defnydd tir ar gyfer y Fwrdeistref Sirol (ac eithrio'r ardal sydd o fewn awdurdodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a bydd yn nodi'r weledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf a'i gymunedau. Bydd y CDLl Diwygiedig hefyd yn nodi maint a lleoliad datblygiadau newydd, yn ogystal â bod yn sail ar gyfer penderfyniadau rheoli datblygu yn y dyfodol (ceisiadau cynllunio).
1.1.3 Mae'r Cyngor bellach ar y cam Strategaeth a Ffefrir ym mhroses baratoi'r CDLl Diwygiedig. Mae cynrychiolaeth weledol o'r camau sy'n rhan o broses y CDLl Diwygiedig wedi'i nodi isod. Mae'r cam Strategaeth a Ffefrir bresennol wedi'i aroleuo'n wyn.
Rhondda Cynon Taf
1.1.4 Mae Rhondda Cynon Taf (RhCT) yng nghanol Cymoedd De Cymru ac mae'n cynnwys ardal o tua 37,130ha (ac eithrio tir o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Yng nghyfrifiad 2021, roedd gan RCT boblogaeth o 237,700 o breswylwyr, sy'n gynnydd o 1.4% yn y boblogaeth ers 2011 (234,000).
Beth yw Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig?
1.1.5 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn ddiwygiad o'r CDLl sydd wedi'i fabwysiadu a bydd yn nodi'r weledigaeth a'r cynigion ar gyfer datblygu yn Rhondda Cynon Taf dros y cyfnod 2022-2037.
1.1.6 Rhaid i'r CDLl Diwygiedig fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a dealltwriaeth drylwyr o anghenion, cyfyngiadau a chyfleoedd yn RhCT. O'r herwydd, mae'n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) baratoi a chadw "Sail Tystiolaeth" gyfredol, sy'n ymdrin â phob agwedd ar nodweddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol.
1.1.7 Mae Strategaeth a Ffefrir y CDLl Diwygiedig yn adeiladu ar y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod oes y CDLl mabwysiedig (2006-2021) i bennu sut mae'r CDLl presennol wedi dod ymlaen. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth sydd wedi'i chynnwys yn Adroddiadau Monitro Blynyddol y Cyngor, polisïau presennol, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd) a'r Adroddiad Adolygu.
1.1.8 At hynny, mae llawer iawn o dystiolaeth gyfredol wedi'i pharatoi a'i chasglu yn ystod camau llunio'r Strategaeth a Ffefrir. Cyfeirir at ddogfennau sail tystiolaeth drwy'r Strategaeth a Ffefrir, fel y bo'n briodol, yn unol â'r meysydd pwnc perthnasol. Mae'r Sail Tystiolaeth yma'n ddeunydd sydd ar gael i'r cyhoedd a fydd yn parhau i gael ei ddiweddaru drwy gydol camau nesaf y CDLl Diwygiedig. Bydd y dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn sicrhau bod cynllun a all gyflawni ar gyfer RhCT yn cael ei llunio a bydd yn cydymffurfio â'r prawf "cadernid" yn ystod y cam Archwilio.
1.1.9 Dylai CDLl Diwygiedig RhCT geisio:
- Meddu ar weledigaeth glir y mae modd ei chyflawni, yn seiliedig ar egwyddorion cadarn ar greu lleoedd, wedi'i gwreiddio mewn polisi lleol i hwyluso datblygu cynaliadwy.
- Darparu strategaeth gydlynol sy'n adlewyrchu dyheadau'r Cyngor, rhanddeiliaid allweddol a'n cymunedau.
- Hwyluso twf mewn aneddiadau sydd wedi nodi capasiti, yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau.
- Nodi ardaloedd sydd â'r modd i gynnwys seilwaith a darpariaeth cyflogaeth/tai, wrth hefyd ddiogelu amgylcheddau adeiledig a naturiol nodedig RhCT ar yr un pryd.
- Hwyluso, yn nhermau defnydd tir, amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, Cynllun Corfforaethol y Cyngor a Chynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg.
- Defnyddio canllawiau, cynlluniau a pholisi cenedlaethol, yn enwedig Polisi Cynllunio Cymru a Dyfodol Cymru, i ddarparu fframwaith cadarn ar gyfer datblygu yn RhCT, sy'n diffinio rôl a swyddogaeth lleoedd.
- Nodi sut bydd RhCT yn newid ac yn datblygu dros oes y CDLl Diwygiedig (hyd at 2037).
Mae rhagor o fanylion am y Cynlluniau a chyd-destun y Polisi y dylai'r CDLl Diwygiedig gydymffurfio â nhw yn Adran 2 y papur yma.
Beth yw Strategaeth a Ffefrir?
1.1.10 Mae Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Lleol 14 a 15 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ACLl baratoi "Strategaeth a Ffefrir", sydd hefyd yn cael ei alw'n gynigion 'Cyn-Adneuo' y Cyngor. Caiff cam y Strategaeth a Ffefrir ei baratoi cyn y cam nesaf o baratoi'r CDLl Diwygiedig, sef llunio'r CDLl Adneuo Diwygiedig terfynol, a fydd yn destun archwiliad cyhoeddus annibynnol.
1.1.11 Mae'r cam cyn-adneuo ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn nodi'r materion allweddol, y weledigaeth/amcanion a'r opsiynau ar gyfer strategaeth, cyn cyflwyno'r Strategaeth a Ffefrir, y bydd y Cyngor yn mynd ar ei hôl. Yn ei hanfod, y cam cyn-adneuo yma yw 'asgwrn cefn' proses y CDLl Diwygiedig, gan nodi'n ffurfiol lefelau twf a dosbarthiad gofodol RhCT. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn gosod y cyfeiriad ar gyfer y CDLl Diwygiedig a fydd yn caniatáu i'n rhanddeiliaid a'n cymunedau roi 'Cynrychioliadau' adeiladol (sylwadau ac adborth ar gynigion) i lywio'r Cynllun Adneuo (sydd wedi'i amserlennu i'w gyhoeddi ym mis Ionawr/Chwefror 2025).
1.1.12 Dangosir cynnwys a phroses datblygu ein Strategaeth a Ffefrir yn y diagram canlynol:
1.1.13 Nod Strategaeth a Ffefrir RhCT yw darparu opsiynau realistig sy'n adlewyrchu ein tystiolaeth, ein gweledigaeth a'n hamcanion. Mae RhCT yn bwriadu diwallu anghenion y Fwrdeistref Sirol a'i chymunedau sydd wedi dod i'r amlwg drwy sicrhau bod modd cyflawni cynigion dros gyfnod y cynllun (hyd at 2037), wrth hefyd gydymffurfio â pholisi cenedlaethol a rhoi sylw dyledus i fentrau rhanbarthol a lleol perthnasol.
1.1.14 I ailadrodd, y Strategaeth a Ffefrir yw'r cyflwyniad cyntaf o'r weledigaeth a'r amcanion, ochr yn ochr â'r opsiynau am dwf strategol a gofodol ar gyfer RhCT. Mae hefyd yn cynnwys y Safleoedd Allweddol sydd wedi'u nodi eu bod yn hanfodol i gyflawniad y CDLl Diwygiedig. Er bod y Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys llawer o fanylion yn ymwneud â'r uchelgeisiau ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, mae ganddi gyfyngiadau. Dylid nodi nad yw'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys dyraniadau sy'n benodol i safleoedd nac yn nodi ffiniau aneddiadau (ac eithrio Safleoedd Allweddol) ac nid yw ychwaith yn cynnwys gwerthusiad terfynol o'r Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi'u cyflwyno. Mae Polisïau Strategol wedi'u nodi yn y Strategaeth a Ffefrir, ond nid yw'n cynnwys polisïau manwl. Bydd y rhain i gyd yn ymddangos yn y Cynllun Adneuo, sydd wedi'i amserlennu i'w gyhoeddi ym mis Ionawr/Chwefror 2025. Mae'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir ac mae'n nodi a yw safle wedi symud ymlaen i Gam 2 y broses neu wedi bod yn aflwyddiannus yng Ngham 1.