Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 17 Ebrill 2024

Adran 7 – Opsiynau Strategaeth Ofodol

Cyflwyniad

7.1.1 Yn ogystal â phenderfynu faint sydd angen i RhCT dyfu, elfen hollbwysig arall o'r Strategaeth a Ffefrir yw lle bydd y twf yma'n digwydd. Er bod tai yn elfen hanfodol o'r cynllun, dyw'r twf cyffredinol a ystyriwyd drwy'r Strategaeth a Ffefrir ddim yn gyfyngedig i gartrefi yn unig ond hefyd i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol dros gyfnod y cynllun.

7.1.2 Wrth ddatblygu'r Opsiynau Strategaeth Ofodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD), ystyriwyd llawer o ffactorau. Yn gyntaf, roedd yn rhaid i'r opsiynau gofodol gydymffurfio â pholisiau cenedlaethol, megis y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) a Pholisi Cynllunio Cymru, sy'n nodi'r 'prawf trothwy' lle mae'n rhaid asesu cynlluniau a chynigion yn erbyn y materion dewisiadau strategol a gofodol a'r deilliannau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol. Mae'r prawf trothwy allweddol yma'n sicrhau bod materion pwysig yn cael eu harchwilio gan nodi cyfleoedd, ynghyd â mesurau lliniaru posibl.

7.1.3 Mae'n rhaid i'r opsiynau gofodol hefyd symud i'r un cyfeiriad â pholisiau a strategaethau lleol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys y Cynllun Llesiant, Cynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf a nifer o ddogfennau strategaethol eraill.

7.1.4 Yn ogystal, er mwyn datblygu'r Opsiynau Strategaeth Ofodol, ystyriwyd pa mor llwyddiannus yw'r CDLl cyfredol. Darparodd hyn dystiolaeth wych o ba elfennau o'r strategaeth ofodol flaenorol oedd wedi gweithio, beth nad oedd wedi gweithio a beth y dylid ystyried ei newid. Cyflawnwyd hyn trwy ddadansoddi'r Adroddiadau Monitro Blynyddol ac Adroddiad Adolygu'r CDLl, sy'n dangos lle mae datblygiad wedi digwydd ac yn cael ei gyflawni.

7.1.5 Yn ystod y prosesau creu gweledigaeth ac ymgysylltu y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach (ac yn fanwl iawn yn y dogfennau sylfaen tystiolaeth sy'n cyd-fynd â'r ddogfen yma, sef yr Adroddiad Ymgynghori Cyn-adneuo a'r Papur Gweledigaeth, Materion ac Amcanion) nodwyd nifer o faterion penodol yn seiliedig ar leoliad. Defnyddiwyd y rhain i lywio datblygiad yr Opsiynau Strategaeth Ofodol ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir, sydd yn ei dro yn gorfod cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlD.

7.1.6 Roedd ffynonellau cefndir a thystiolaeth eraill a lywiodd yr opsiynau gofodol yn cynnwys:

  • Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd a Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol
  • Yr Hierarchaeth Aneddiadau a'r Papur Asesu
  • Yr Astudiaeth Capasiti Trefol
  • Y Papur Dewisiadau Twf
  • Y Papur Cyflenwi Tai
  • Yr Adolygiad Tir Cyflogaeth
  • Yr Adroddiadau Hyfywedd
  • Yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
  • Y Strategaeth Dai
  • Yr Astudiaeth Modelu Trafnidiaeth

7.1.7 Ystyrir hefyd yr hyn sy'n datblygu ar lawr gwlad a'r hyn y mae modd ei ddirnad o hyn; megis buddsoddiad a datblygiad sylweddol Metro De Cymru, y twf yn y diwydiant twristiaeth a natur newidiol canol trefi.

7.1.8 Lluniwyd cyfres o Opsiynau Strategaeth Ofodol yn seiliedig ar yr uchod i gyd, gan gloi gyda'r canlynol:

  • Dewis 1: Parhad o Strategaeth bresennol y CDLl
  • Dewis 2: Rhwydwaith Priffyrdd Strategol yn ystyried y Prif Aneddiadau
  • Dewis 3: Canol Trefi yn Gyntaf
  • Dewis 4: Strategaeth Twf y De
  • Dewis 5: Nodau Metro a Thrafnidiaeth Gyhoeddus
  • Dewis 6: Safle Strategol Allweddol yn y De
  • Dewis 7: Cyfyngiad Trefol
  • Dewis 8: Strategaeth Anghenion Lleol

7.1.9 Ceir disgrifiad, dadansoddiad ac asesiad cynhwysfawr o'r opsiynau yma yn y Papur Opsiynau Strategaeth Ofodol.

Cefndir Opsiynau'r Strategaeth Ofodol a'u Hasesiad

7.1.10 Ystyriwyd ac aseswyd yr holl opsiynau yn erbyn y sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr a restrir uchod. Serch hynny, un o'r ffactorau allweddol a benderfynodd oedd y gallu i gyflawni pob opsiwn, yn enwedig o ran maint y tir sydd ar gael. Er y gall datblygiadau tir llwyd yn unig mewn canolfannau/ardaloedd trefol presennol gyflawni'n dda o ran cynaliadwyedd; os na all y dull gweithredu ddarparu'r swm gofynnol o dir ar gyfer tai ac adeiladau masnachol, dydy hyn ddim yn realistig.

7.1.11 Mae Opsiynau'r Strategaeth Ofodol wedi'u cysylltu'n gynhenid â'r Papur Opsiynau Twf a'i ofynion a'i gasgliadau. Byddai methu â chyflawni'r swyddi a'r cartrefi gofynnol hefyd yn effeithio'n negyddol ar Rondda Cynon Taf. Gall arwain at fwy o deithio wrth i bobl gael eu gorfodi i fyw a gweithio ymhellach oddi wrth ei gilydd. Felly, her allweddol i RCT yw cydbwyso dyheadau cynaliadwyedd â pha mor realistig yw hi i gyflawni datblygiad o dan bob opsiwn, gan gofio pa mor ddeniadol yw ardal y de i ddatblygwyr o gymharu â'r gogledd. Mae'r Papur Cyflenwi Tai, sy'n ystyried y banc tir sydd ar gael ar gyfer tai; y safleoedd ymgeisiol sydd wedi mynd trwy asesiadau cynnar; a'r dadansoddiad o safleoedd annisgwyl, hefyd yn dylanwadu'n drwm ar y penderfyniadau ynghylch opsiynau.

7.1.12 Ystyriwyd yr Opsiynau Strategaeth Ofodol ymhellach yn erbyn yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI), a ddefnyddiodd amcanion yr ACI ar gyfer asesu. Mae canlyniadau llawn y broses yma i'w gweld yn y Papur ACI o Opsiynau Gofodol. Yn gyffredinol, nododd yr ACI ystod eang o effeithiau cadarnhaol a negyddol ar draws yr opsiynau. Ystyriwyd amcanion pellach y CDLlD hefyd yn erbyn yr opsiynau.

7.1.13 Ffactor allweddol arall o ran darparu opsiynau yw hyfywedd y farchnad mewn gwahanol rannau o'r Fwrdeistref Sirol. Cafodd asesiad hyfywedd lefel uchel, yn yr Adroddiadau Hyfywedd ei gomisiynu i ddarparu gwybodaeth am hyfywedd/meysydd marchnad i lywio'r CDLlD.

Dewis 1: Parhau â'r Strategaeth CDLl gyfredol

7.1.14 Mae'r Strategaeth CDLl yn strategaeth hybrid, sy'n darparu ar gyfer datblygiad mewn lleoliadau sy'n diwallu anghenion lleol gan hyrwyddo twf cynaliadwy. Mae ardal y strategaeth wedi'i rhannu'n ddwy ran ar wahân, sef y Gogledd a'r De lle defnyddir dull polisi gwahanol ar gyfer pob un. Mae datblygiad yn y strategaeth bresennol yn canolbwyntio ar y Prif Drefi a'r Aneddiadau Allweddol, fel y nodir yn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Mae hefyd yn dyrannu datblygiad defnydd cymysg ar raddfa fawr ar wyth safle strategol.

7.1.15 Mae'n amlwg o fonitro'r CDLl bod rhai elfennau o'r strategaeth hon wedi gweithio ac eraill heb weithio. Mae'r Strategaeth bresennol wedi gweld 7,784 o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod oes y cynllun. Adeiladwyd cyfanswm o 3,050 o anheddau yn yr Ardal Strategaeth Ogleddol a 4,734 yn Ardal Strategaeth y De. Serch hynny, dim ond ychydig dros hanner y swm a ddyrannwyd oedd hyn.

7.1.16 Roedd y gyfradd gwblhau ar yr holl ddyraniadau yn isel, (o ran tai a chyflogaeth) ac yn arbennig felly ar nifer o Safleoedd Strategol y dibynnwyd yn drwm arnynt ar gyfer cyflawni. Mae datblygiad wedi parhau o ddifrif ar safle Llanilid yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae datblygiad wedi digwydd ar elfen gyflogaeth Tresalem/Aber-nant a pharatoi'r elfen gyflogaeth ar Dir i'r De o Hirwaun. Dylai datblygiadau diweddar weld datblygiad pellach yn ardaloedd Mwyndy/Tonysguboriau ac Aber-nant yn y dyfodol agos. Erys y ffaith bod dim modd dibynnu ar o leiaf dri Safle Strategol tir llwyd ar hyn o bryd ar gyfer datblygiadau dwysedd uchel. Serch hynny, mae'r Strategaeth wedi gweld datblygiad sylweddol ar safleoedd heb eu dyrannu/safleoedd annisgwyl, yn enwedig safleoedd tir llwyd sydd wedi cyfrannu'n fawr at amcanion y CDLl a'i bolisïau. Mae hyn hefyd wedi'i weld mewn perthynas â datblygiad masnachol ac ailddatblygu ar safleoedd cyflogaeth presennol.

7.1.17 Wrth asesu'r opsiwn yma, mae'r elfen rhaniad gogledd/de a bwriadau'r Strategaeth yn dal yn berthnasol, ochr yn ochr â'r Hierarchaeth Aneddiadau. Efallai na fydd y Strategaeth bresennol yma yn gwbl briodol i'w datblygu yn ei chyfanrwydd, er bod elfennau cadarnhaol clir y dylid eu cadw.

Dewis 2: Rhwydwaith Priffyrdd Strategol sy'n ystyried y Prif Aneddiadau

7.1.18 Mae'r opsiwn yma'n cynnig datblygiad yn y rhannau hynny o'r Fwrdeistref Sirol sy'n elwa fwyaf o'u hagosrwydd at goridorau'r M4, yr A470 a'r A465. Mae hyn yn cyd-fynd yn gyffredinol â Phrif Aneddiadau Tonysguboriau/Pont-y-clun/Llantrisant, Pontypridd ac Aberdâr, sydd ar ben yr Hierarchaeth Aneddiadau.

7.1.19 I raddau, mae modd dosbarthu hwn fel opsiwn, sy'n hyrwyddo'r defnydd o geir ymhellach gan ei fod yn seiliedig ar y rhwydwaith priffyrdd strategol. Wrth gwrs, fyddai hyn ddim yn cyd-fynd â'r polisi cenedlaethol, sy'n hyrwyddo newid i ffwrdd oddi wrth ddatblygiadau sy'n hybu'r defnydd o geir. Serch hynny, yn hytrach na strategaeth yn seiliedig ar geir yn unig, mae'n ceisio ehangu'r adfywio parhaus yn y coridorau Prif Aneddiadau yma ac o'u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys yr hwb i dwristiaeth yng ngogledd Cwm Cynon, yr adfywio a welwyd ym Mhontypridd a galw'r farchnad yn ardal Taf-elái. O ran yr A465, ffordd 'Blaenau'r Cymoedd', yn benodol, bwriad y buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yng nghoridor y cymoedd gogleddol oedd cynyddu ffyniant economaidd yn yr isranbarth yma. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r CDLlD wneud y mwyaf ohono, a ddylai gynnwys twf economaidd cyffredinol a chryfhau'r economi twristiaeth sy'n datblygu yng ngogledd RhCT.

Dewis 3: Canol Trefi yn Gyntaf

7.1.20 Mae'r opsiwn yma'n ceisio ymagwedd canol trefi yn gyntaf at leoliad datblygiadau, gan ddefnyddio dull dilyniannol. Mae'n nodi safleoedd datblygu sy'n agos at y prif aneddiadau a'r aneddiadau allweddol, fel y nodir yn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Mae'r opsiwn yma'n hyrwyddo teithio cynaliadwy trwy leoli datblygiadau'n agos at drafnidiaeth gyhoeddus ac yn agos at gyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau i gyflawni byw'n gynaliadwy a newid moddol.

7.1.21 Byddai'r opsiwn yma'n amlwg yn cyd-fynd â pholisi cenedlaethol ac yn cyd-fynd â'r Hierarchaeth Aneddiadau ehangach. Mae'n gynaliadwy iawn, gan ei fod yn agos at gyfleusterau. Byddai hefyd yn ddefnydd effeithlon o dir ac yn lleihau'r angen i deithio. Mae'n darparu opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy, pan fo angen trafnidiaeth. Byddai hefyd yn cefnogi adfywiad parhaus canol trefi RhCT. Serch hynny, mae'n amlwg iawn nad oes digon o dir addas i gyflawni amcanion y CDLlD, ac yn arbennig ar gyfer y raddfa angenrheidiol o dwf mewn datblygu, gyda'r opsiwn strategaeth yma'n unig. Dylai ymagwedd Canol Trefi yn Gyntaf, fel y nodir mewn polisi cenedlaethol, bob amser fod yn gynsail cryf mewn CDLl a dylid ei nodi ym mholisïau'r cynllun. Yn arbennig, mae'r ddogfen sail tystiolaeth Astudiaeth Capasiti Trefol yn nodi cyfyngiadau'r opsiwn yma.

Dewis 4: Strategaeth Twf y De

7.1.22 Mae'r opsiwn strategaeth yma'n canolbwyntio ar leoli twf yn ardal ddeheuol RhCT (ardal Taf-elái) gan ganolbwyntio'n benodol ar goridor yr M4. Elfennau allweddol yr opsiwn yma yw lleoli'r rhan fwyaf o'r twf yn y de, a fyddai'n golygu rhyddhau tir glas. Byddai hyn yn gweld twf cyfyngedig yn yr ardaloedd gogleddol, a fyddai'n darparu ar gyfer angen lleol yn unig.

7.1.23 Y fantais fawr gyda'r opsiwn yma yw bod modd iddo gyflawni'r lefel ofynnol o dwf ac mae ganddo hanes profedig o gyflawni, ac mae'n ardal lle mae galw hyfyw. Byddai'r opsiwn yma'n caniatáu'r gallu i wella seilwaith cymunedol a seilwaith arall a gallai ddarparu rhagor o dai fforddiadwy. Mae'r ardal yma o RCT yn fwy cyfyngedig o ran seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac nid yw rhai ardaloedd yn gynaliadwy iawn.

Dewis 5: Nodau Metro a Thrafnidiaeth Gyhoeddus

7.1.24 Byddai'r opsiwn yma'n canolbwyntio datblygiad o amgylch canolbwyntiau trafnidiaeth gyhoeddus, coridorau a gorsafoedd presennol. Mae'n gwneud y mwyaf o ddatblygiadau o fewn pellter cerdded neu feicio i orsafoedd a chanolfannau Metro, sydd yn gyffredinol yn cyd-fynd â'r Hierarchaeth Aneddiadau. Byddai'n ceisio twf yn yr ardaloedd hynny a wasanaethir orau gan drafnidiaeth gyhoeddus ac yn lleihau'r angen i deithio gyda cherbydau preifat.

7.1.25 Byddai hyn yn cael effeithiau sylweddol, cadarnhaol yn gysylltiedig â dulliau teithio cynaliadwy a llesol a darparu mynediad at swyddi heb fod mor ddibynnol ar ddefnyddio ceir; gan leihau'r angen i deithio yn y pen draw. Byddai'r datblygiad gweddol wasgaredig a fyddai'n digwydd o dan yr opsiwn yma hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol o ran ysgogi adfywio mewn gwahanol rannau o'r Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â chefnogi canolfannau manwerthu a masnachol. Serch hynny, mae'n amlwg iawn nad oes digon o dir addas i gyflawni amcanion y CDLlD, ac yn arbennig graddfa'r twf, gyda'r opsiwn strategaeth yma'n unig.

Dewis 6: Safle Strategol Allweddol yn y De

7.1.26 Byddai'r opsiwn yma'n golygu bod Safle Allweddol mawr yn cael ei ddyrannu yn ne'r Fwrdeistref Sirol. Byddai'n darparu ar gyfer mwyafrif sylweddol o'r tai newydd a datblygiadau eraill dros gyfnod y cynllun wedi'u cefnogi gan ddyraniadau llai wedi'u gwasgaru ar draws y Fwrdeistref Sirol i fynd i'r afael ag angen lleol.

7.1.27 Drwy ddyrannu Safle Allweddol yn y de, sydd â hanes profedig o gyflawni, mae'n debygol y byddai'r opsiwn yma'n sicrhau'r rhan fwyaf o'r twf sydd ei angen ar gyfer cyfnod y cynllun. Drwy ddyrannu safle mwy byddai modd darparu cymysgedd o ddefnyddiau a chynnwys seilwaith a chyfleusterau priodol. Mae pryderon ynghylch cynaliadwyedd mewn rhai ardaloedd, yn ogystal â diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Mae risg hefyd gyda safle mawr y byddai'n cymryd mwy o amser i'w adeiladu na nifer o safleoedd llai. At hynny, os bydd methiant i adeiladu safle mwy, mae'n debygol y bydd yn arwain at beidio â chyflawni'r strategaeth.

Dewis 7: Cyfyngiad Trefol

7.1.28 Mae'r opsiwn strategol yma'n ceisio sicrhau twf yn yr ardal drefol bresennol heb fod angen rhyddhau tir newydd i'w ddatblygu. Mae elfennau allweddol y strategaeth yma'n ceisio cefnogi ailddefnyddio, trosi ac ailddatblygu eiddo a thir gwag, segur ac adfeiliedig (h.y. datblygu ar dir llwyd) o fewn terfynau presennol yr anheddiad. Byddai'r strategaeth hefyd yn cael ei chefnogi gan safleoedd annisgwyl a safleoedd sydd wedi'u hymrwymo ar hyn o bryd ac mae'n dilyn patrwm yr Hierarchaeth Aneddiadau.

7.1.29 Byddai hyn yn cael effeithiau cadarnhaol sylweddol sy'n gysylltiedig â hwyluso rhagor o ddefnydd o ddulliau teithio cynaliadwy a llesol yn y cymunedau presennol. Byddai'r datblygiad gweddol wasgaredig a fyddai'n digwydd o dan yr opsiwn yma hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol o ran ysgogi adfywio mewn gwahanol rannau o'r Fwrdeistref Sirol. Byddai hefyd yn cynnig cyfleoedd da ar gyfer defnyddio tir llwyd a darparu datblygiad yn agos at wasanaethau, cyfleusterau a chysylltiadau trafnidiaeth presennol. Serch hynny, byddai'r opsiwn strategol yn arwain at lefelau is o dwf yn gyffredinol, er gwaethaf y ffaith nad oes digon o dir ar gael i gyflawni'r opsiwn yma.

Dewis 8: Strategaeth Anghenion Lleol

7.1.30 Mae'r opsiwn yma'n seiliedig ar yr egwyddor o fynd i'r afael ag anghenion pob anheddiad unigol, a fyddai'n arwain at dwf gwasgaredig ledled RhCT. Byddai hyn yn arwain at ddyraniadau datblygu cymesur i adlewyrchu maint a graddfa'r aneddiadau cysylltiedig ynghyd â'r angen am dai fforddiadwy a thai ar gyfer y farchnad.

7.1.31 Byddai'r opsiwn yma'n gweld twf lle mae ei angen, a fyddai'n lleihau'r pwysau ar feysydd eraill yn RhCT.

7.1.32 O ystyried y byddai datblygiad yn y dyfodol o fewn aneddiadau presennol, byddai'r opsiwn yn cael effeithiau cadarnhaol sylweddol yn gysylltiedig â mwy o ddefnydd o ddulliau teithio cynaliadwy a llesol a lleihau'r defnydd o geir. Byddai'r datblygiad gweddol wasgaredig a fyddai'n digwydd o dan yr opsiwn yma hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol o ran ysgogi adfywio mewn gwahanol rannau o'r Fwrdeistref Sirol. Serch hynny, does dim digon o dir i gyflawni'r twf gofynnol mewn llawer o'r meysydd angen. Byddai hyfywedd mewn rhai o'r ardaloedd yma hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd o gael cyflenwad digonol o dai fforddiadwy.

Strategaeth Ofodol a Ffefrir Posibl

7.1.33 I gloi, mae'r dadansoddiad o'r opsiynau yma'n amlygu bod agweddau cadarnhaol iawn i bob un. Serch hynny, fyddai unrhyw opsiwn unigol arall ddim yn briodol ar ei ben ei hun i gwrdd â'r lefelau twf angenrheidiol, ac ehangder Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlD.

7.1.34 Serch hynny, penderfynwyd bod elfennau sylfaenol Strategaeth Ofodol y CDLl cyfredol yn parhau i fod yn briodol, fel sylfaen gadarn ar gyfer y CDLl Diwygiedig. Mae'r Sail Tystiolaeth yn awgrymu bod angen amlwg o hyd i'r strategaeth barhau i gael strategaethau gwahanol ar gyfer gogledd a de'r Fwrdeistref Sirol.

7.1.35 Dangosir bod graddfa'r twf y gellir ei gynnwys yn y de dros gyfnod cyfan y cynllun yn fwy nag yn y gogledd; ac ar raddfa sy'n angenrheidiol i ddiwallu ein hanghenion tai a chyflogaeth gofynnol. Er bod cyfleoedd mwy hysbys ar gyfer twf tai yn rhan gychwynnol o gyfnod y cynllun, byddai angen i'r ardal ogleddol elwa ar ddull amrywiol o gyflawni twf dros gyfnod cyfan y cynllun.

7.1.36 Serch hynny, wrth ystyried y dystiolaeth sydd wedi llywio'r Opsiynau Strategaeth Ofodol, a'r dadansoddiad ohonynt; byddai agweddau cadarnhaol pob opsiwn yn cyfrannu at gyflawni amcanion y CDLl, a gofynion a nodweddion unigryw rhannau gogleddol a deheuol y Fwrdeistref Sirol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig