Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir
Adran 3 – Materion
3.1 Cyflwyniad
3.1.1 Cam cychwynnol ar gyfer Diwygio'r CDLl yw nodi materion, heriau a sbardunau allweddol sy'n wynebu RhCT.
3.1.2 Llwyddwyd i nodi'r rhain ar gyfer y CDLl Diwygiedig drwy sawl cam ac ymgysylltu'n eang â'r cyhoedd, ymgynghori â Fforwm y CDLl, y Grŵp Rhanddeiliaid Tai, Grŵp Llywio Aelodau RhCT a gweithgor swyddogion mewnol y Cyngor.
3.1.3 Roedd yr arfarniad integredig o gynaliadwyedd hefyd yn ailystyried y materion a gafodd eu nodi yn y CDLl cyfredol ac yn adolygu'r rhain i weld pa rai oedd yn parhau i fod yn berthnasol. Cwestiynwyd data gwaelodlin a thystiolaeth i ganfod pa faterion o'r cynllun cyfredol oedd yn parhau i fod yn berthnasol a hefyd i sefydlu a oedd unrhyw faterion newydd wedi codi.
3.1.4 Mae'r Materion yma'n nodi'r hyn y dylai'r CDLl Diwygiedig fynd i'r afael ag ef yn gynnar yn y broses o lunio cynllun. Yna maen nhw'n ffurfio'r sylfaen ar gyfer paratoi'r camau canlynol o'r Weledigaeth, Amcanion, Strategaeth a Ffefrir a'i Pholisïau Strategol.
3.1.5 Rhestrir y Materion, a sut y cawson nhw eu casglu, yn llawn yn y papur Gweledigaeth, Materion ac Amcanion (2023). Mae crynodeb o'r Materion allweddol, gan gynnwys yr heriau a'r sbardunau, wedi'u nodi isod, ac wedi'u grwpio i'r meysydd pwnc a ystyrir fel y rhai mwyaf priodol:
Materion Tai
- Tai i bawb: Mae angen mwy o dai fforddiadwy a thai marchnad breifat yn RhCT.
- Cymysgedd o dai i bawb. Mae angen datblygu ystod amrywiol o feintiau a mathau o dai ar gyfer pob aelod o gymdeithas, pob oed a'u hanghenion unigol.
- Adeiladau cynaliadwy: Dylai mwy o dai gael eu hadeiladu gan ystyried safonau carbon niwtral a charbon sero.
- Dyluniad datblygiadau tai: Dylai datblygiadau tai newydd barhau i wella eu dyluniad ar gyfer cymunedau mwy cydlynol yn y dyfodol.
- Hyfywedd tai: Mae hyfywedd ariannol i alluogi datblygiad tai sylweddol a arweinir gan y farchnad yn broblem yng ngogledd RhCT yn arbennig. Dydy cyflenwi tai newydd ddim wedi bod mor gytbwys ag y dylai ar draws holl ardaloedd RhCT dros y blynyddoedd diwethaf.
- Lleoliad tai: Dylid cyflwyno datblygiad mewn lleoliadau cynaliadwy, ar safleoedd tir llwyd yn ffin yr anheddiad lle bo modd.
- Tai a thrafnidiaeth: Mae gan rai cymunedau llai o fynediad at deithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith priffyrdd nag eraill.
- Ansawdd tai: Mae cyfran fawr o'r stoc dai yn RhCT yn hŷn, a dylid parhau i fuddsoddi i'w chynnal.
- Eiddo gwag: Mae yna dai/eiddo gwag ledled RhCT y dylid eu dychwelyd i ddefnydd buddiol.
- Tai amlfeddiannaeth: Dylid rheoli'n briodol y niferoedd uchel o dai amlfeddianaeth sy'n bodoli mewn rhai cymunedau.
- Tai a'r Gymraeg: Dylai datblygiadau tai gefnogi'r Gymraeg a pheidio â bod yn niweidiol iddi.
- Cymuned Sipsiwn a Theithwyr; Mae angen darparu tai priodol a digonol ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Materion yr economi a chyflogaeth
- Cyflogaeth: Mae gan rai rhannau o'r Fwrdeistref Sirol lefelau uwch o amddifadedd a diweithdra.
- Cynyddu cyflogaeth: Mae angen mwy o gyflogaeth yn RhCT i barhau i wella a chryfhau'r economi.
- Lleoliad cyflogaeth Mae anghydbwysedd yn y raddfa cyflogaeth ar draws RhCT, yn enwedig o'r gogledd i'r de ac felly dydy cyflogaeth ledled RhCT ddim mor hygyrch i bawb.
- Arallgyfeirio: Byddai mwy o amrywiaeth a moderneiddio yn y farchnad gyflogaeth yn cael eu croesawu.
- Ystadau cyflogaeth; Byddai'r stoc adeiladau yn rhai o'r ystadau cyflogaeth a diwydiannol yn elwa o waith moderneiddio neu ailddatblygu.
- Cyflogaeth a chanol trefi: Mae angen mwy o gyfleoedd cyflogaeth yng nghanol trefi.
- Addysg: Mae yna ardaloedd yn RhCT sydd â lefelau cyrhaeddiad addysgol is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Materion yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth
- Lleihau'r angen i deithio; Mae angen lleihau'r angen i deithio, yn enwedig trwy leoliad datblygiadau newydd.
- Trafnidiaeth gyhoeddus: Dydy rhai cymunedau ac ardaloedd yn RhCT ddim yn cael eu gwasanaethu cystal gan drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau teithio llesol ag eraill. Gall hyn ymwneud â math, amlder neu integreiddio rhwng dulliau. Dylid annog y cyfleusterau hyn a pharhau i 'w gwella i bawb.
- Metro: Mae Metro De Cymru yn cael ei groesawu a dylid ei gefnogi drwy leoli datblygiadau yn y dyfodol yn briodol.
- Tagfeydd a ffyrdd: Mae yna ardaloedd o dagfeydd traffig yn ystod oriau brig o amgylch RhCT a dylid mynd i'r afael â'r rhain lle bo modd.
- Cysylltedd ac integreiddio: Yn gyffredinol, mae llai o gysylltedd trafnidiaeth da rhwng rhai ardaloedd yn RhCT, yn enwedig wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin.
- Cerbydau trydan: Does dim digon o seilwaith gwefru cerbydau trydan yn RhCT.
Materion iechyd a lles
- Iechyd a lles corfforol a meddyliol: O'u hystyried yn erbyn dangosyddion cenedlaethol, mae rhai lefelau iechyd corfforol a meddyliol gwael yn RhCT, ac mae hyn yn waeth mewn rhai ardaloedd nag eraill.
- Darpariaeth gofal iechyd: Mae angen i ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol fodloni gofynion y boblogaeth sy'n tyfu.
- Ansawdd aer a llygredd: Mae gan rai ardaloedd bach o RCT bocedi o ansawdd aer gwael.
- Mynediad i fannau agored/gwyrdd, yr awyr agored a gweithgarwch corfforol: Mae gan rai rhannau o RCT fannau agored a gwyrdd sy'n llai hygyrch nag eraill.
- Trosedd a diogelwch: Yn yr un modd â phob ardal, mae gan RCT broblemau o ran troseddau, a lle bo modd, dylai datblygiadau geisio dylunio i atal posibilrwydd o droseddau.
Materion amgylchedd naturiol
- Seilwaith gwyrdd, mannau gwyrdd a mannau agored: Mae angen gwarchod, gwella a darparu rhagor o seilwaith gwyrdd a glas. Mae angen mwy o fannau agored a mannau gwyrdd sy'n hygyrch ac o ansawdd da yn RhCT mewn rhai lleoedd.
- Ecoleg a bioamrywiaeth: Mae angen gwarchod a gwella nodweddion bioamrywiaeth ac asedau naturiol, yn enwedig yn unol â'r argyfwng natur sydd wedi'i ddatgan ar lefel genedlaethol.
- Tirwedd: Dylid parhau i warchod tirweddau sensitif ledled RhCT a rhoi ystyriaeth hefyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Materion newid yn yr hinsawdd
- Ynni Adnewyddadwy: Mae angen rhagor o gynlluniau datblygu ynni adnewyddadwy cynaliadwy a phriodol.
- Llifogydd: Rhaid parhau i reoli llifogydd a'u heffeithiau yn RhCT.
- Seilwaith gwyrdd a storio carbon: Mae angen cadw a gwella seilwaith gwyrdd a'r holl asedau naturiol addas a all helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
- Dyluniad cynaliadwy / carbon niwtral: Dylid dylunio datblygiadau mewn modd mwy cynaliadwy ac ystyriol o ran carbon.
- Tanau gwyllt: Mae rheoli risg tanau gwyllt yn bwysig ar gyfer diogelwch, yr amgylchedd ac ar gyfer iechyd a lles
Materion Gwastraff
- Sbwriel ac ailgylchu: Mae angen parhau i annog a gwella cyfraddau ailgylchu cadarnhaol a lleihau'r holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu.
- Casglu gwastraff: Mae angen sicrhau bod datblygiadau yn cael eu dylunio gyda chasgliadau gwastraff mewn golwg.
- Economi gylchol: Mae angen mwy o ystyriaeth a chefnogaeth ar gyfer yr economi gylchol.
- Tipio anghyfreithlon: mae tipio anghyfreithlon yn broblem yn RhCT.
Mae angen sicrhau amddiffyniad ffisegol a chemegol yr amgylchedd naturiol.
Materion yn ymwneud â mwynau
- Echdynnu: Ni ddylai fod rhagor o waith echdynnu glo yn RhCT.
- Dylai gwaith echdynnu agregau chwarel yn RhCT fod yn briodol ac yn angenrheidiol.
- Gwaddol diwydiant y pyllau glo: mae angen mynd i'r afael â gwaddol diwydiant y pyllau glo a'i effeithiau.
Materion yn ymwneud â diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg
- Adeiladau Rhestredig, cadwraeth a threftadaeth: Dylai adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth ac asedau treftadaeth gael eu cadw a'u gwella er mwyn cael nifer o fanteision.
- Y Gymraeg: Mae angen gwarchod, cefnogi ac annog y Gymraeg
- Addysg: Rhaid parhau i wella cyrhaeddiad addysgol.
- Addysg: Rhaid i gapasiti ysgolion barhau i dyfu i ddiwallu'r angen cynyddol mewn rhai ardaloedd yn RhCT.
- Y celfyddydau: dylid cefnogi'r celfyddydau ymhellach.
- Gweithgareddau yn y gymuned: Mae angen gwella cydlyniant cymunedol a chreu cymunedau cryf.
Materion seilwaith cymunedol
- Iechyd: Mae angen i ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol fodloni gofynion y boblogaeth sy'n tyfu.
- Mynediad i wasanaethau a chyfleusterau: Mae gan rai cymunedau wasanaethau a chyfleusterau llai hygyrch nag eraill, a dylid ystyried hyn wrth gynnig tai newydd.
Materion yn ymwneud â thwristiaeth a hamdden
- Twristiaeth: Mae angen adeiladu ar lwyddiannau twristiaeth diweddar yn RhCT, er mwyn helpu i gefnogi'r economi ymhellach.
- Llety twristiaid: Mae angen llety addas pellach ar gyfer twf yn y sector Twristiaeth.
- Hyrwyddo Twristiaeth ac ymweliadau estynedig: Dylid ceisio ffyrdd o annog ymwelwyr i aros am gyfnod hirach yn RhCT. Gall hyn gynnwys hyrwyddo ein hasedau diwylliannol, treftadaeth a naturiol.
- Hyrwyddo a chefnogi busnesau: Croesewir mwy o hyrwyddo a chefnogaeth i dwristiaeth a'i busnesau yn RhCT.
- Cyfleusterau hamdden: mae angen parhau i gefnogi defnyddiau a chyfleusterau hamdden.
Materion yn ymwneud â chanol trefi a manwerthu
- Canol trefi: Mae angen newid rôl canol trefi. Mae angen newid y cymysgedd o ddefnyddiau ac mae angen mabwysiadu dull hyblyg ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.
- Tai yng nghanol trefi: Dylid cefnogi tai yng nghanol trefi ond mae angen iddyn nhw fod yn briodol ac yn addas.
- Buddsoddi yng nghanol trefi: mae angen buddsoddiad parhaus yng nghanol trefi i gynnal hyfywedd yn y dyfodol.
Materion yn ymwneud â gwaddol y diwydiant glo
- Diogelwch tomennydd: mae angen rhoi sylw i ddiogelwch tomennydd.
- Adfer: Mae angen mynd i'r afael â'r rhwystrau o ran adfer.
- Ecoleg a bioamrywiaeth: Mae angen cydnabod gwerth uchel ecoleg a bioamrywiaeth yr hen safleoedd mwyngloddio, eu hystyried yn effeithiol a'u hintegreiddio i gynigion datblygu, diogelwch tomennydd a chyflawni rheolaeth.