Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir
Adran 6 – Opsiynau ar gyfer Twf
Cyflwyniad
6.1.1 Rhan sylfaenol o'r gwaith o baratoi'r CDLl Diwygiedig yw sefydlu'r lefel fwyaf addas o dwf i'r cynllun ei gyflawni. Caiff hyn ei bennu gan lu o dystiolaeth, anghenion a dyheadau yn ymwneud â materion cymdeithasol, economaidd a demograffig. Yn bennaf, mae hyn yn ymwneud â'r raddfa tai y dylid ei darparu yn y CDLl Diwygiedig. Fodd bynnag, mae hyn hefyd wedi'i gysylltu'n gynhenid ag economi RhCT, o ran twf cyflogaeth a cheisio sicrhau demograffeg gytbwys yn y dyfodol yn y Fwrdeistref Sirol, er mwyn ei ffyniant parhaus.
6.1.2 Mae 'Edge Analytics' wedi paratoi adroddiad Tystiolaeth Ddemograffig ar gyfer RhCT. Mae'n gosod proffil manwl o ddemograffig a chyflogaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Yna mae'n cyflunio amrywiaeth o senarios twf, yn seiliedig ar ddemograffeg a chyflogaeth. Mae'n cloi gydag ystod gysylltiedig o ddeilliannau twf o ran anheddau a chyflogaeth ar gyfer pob un o'r sefyllfaoedd hyn rhwng 2022 a 2037.
6.1.3 Mae'r Papur Opsiynau ar gyfer Twf yn dilyn ymlaen o hyn, gan nodi ein dadansoddiad o'r Senarios Twf hyn i benderfynu beth sydd fwyaf addas ar gyfer y CDLl Diwygiedig, yn erbyn llu o dystiolaeth ac ystyriaethau perthnasol.
6.1.4 Mae tystiolaeth arall o'r fath sydd wedi llywio'r broses yma yn cynnwys:
- Adroddiad Adolygu CDLl
- Amcanestyniadau Aelwydydd a Phoblogaeth 2018 Llywodraeth Cymru
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Ystadegau Cymru
- Papur Cyflenwad Tai
- Asesiadau Safleoedd Ymgeisiol
- Astudiaeth Capasiti Trefol
- Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
Senarios Twf
Cafodd senarios a oedd yn dangos deilliannau tebyg eu grwpio gyda'i gilydd i'w dadansoddi, fel a ganlyn:
Senarios Twf ystod ganolig
6.1.5 Mae'r cyntaf o'r senarios twf ystod ganolig yn seiliedig ar Brif Amcanestyniadau Poblogaeth 2018 Llywodraeth Cymru (LlC). Mae'r ail yn senario 5 mlynedd ar sail Anheddau. Ystyrir mai opsiwn 2018-LlC yw'r prif amcanestyniad (neu'r amcanestyniad 'ganolog'), ac mae ei ragolygon yn seiliedig ar dybiaethau megis marwolaethau, mudo, cyfansoddiad aelwydydd, a ffrwythlondeb yn y dyfodol, yr ystyrir sydd fwyaf adlewyrchol o batrymau demograffig ar yr adeg cyhoeddi. Mae'r opsiwn 5 mlynedd ar sail Anheddau wedi llunio amcanestyniadau gan ddefnyddio cyfradd cwblhau tai blynyddol cyfartalog RhCT o 509 o anheddau'r flwyddyn (2016/17 – 2020/21).
6.1.6 Mae'r amcanestyniadau hyn wedi'u trosi i ofynion tai newydd o 8,450 a 7,635 ar draws cyfnod y CDLl Diwygiedig, neu 564 a 509 o anheddau i'w hadeiladu'r flwyddyn, yn y drefn honno. Y twf cyflogaeth blynyddol disgwyliedig cysylltiedig fyddai 266 a 187 o swyddi yn y drefn honno.
Enw'r Senario Amcanestyniad |
Crynodeb |
Cyfanswm y newid yn y boblogaeth 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm y newid mewn aelwydydd 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm Anheddau (Anheddau'r flwyddyn) |
Twf Cyflogaeth y flwyddyn |
2018-LlC |
Prif Amcanestyniadau Poblogaeth yn seiliedig ar ffrwythlondeb, marwolaethau, mudo a thybiaethau am gyfansoddiad aelwydydd. |
8,020 (3.3%) |
8,009 (7.5%) |
8,450 (564) |
266 |
5 mlynedd ar sail Anheddau |
Modelu ar dwf blynyddol cyfartalog anheddau sy'n cyfateb i gyfradd flynyddol gyfartalog cwblhau tai RhCT 2016/17 – 2020/21. |
6,406 (2.7%) |
7,234 (6.8%) |
7,635 (509) |
187 |
6.1.7 At ei gilydd, caiff y ddwy senario twf ystod ganolig eu hategu gan y dystiolaeth fwyaf sylweddol. Mae pob un o'r senarios hyn yn cyflwyno senarios twf realistig mae modd eu cyflawni, ac mae'r twf mewn anheddau a swyddi a ragwelir gan y senarios hyn yn adlewyrchu safle RhCT yn rhan o Ardal Twf Genedlaethol Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd. Mae gan yr opsiynau ar gyfer twf ystod ganolig y fantais o ddarparu cydbwysedd i ddarparu nifer uchelgeisiol ond cyraeddadwy o dai preifat a fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn lleoliadau cynaliadwy, wrth hefyd leihau effeithiau amgylcheddol posibl. Mae'r ddau senario hyn yn dargedau cadarnhaol ac uchelgeisiol iawn sydd â'r modd i ddatrys amcanion lluosog y CDLl diwygiedig.
Senarios Twf Uwch
6.1.8 Mae dwy senario arall wedi'u hystyried sydd â lefelau twf uwch. Mae'r cyntaf yn dilyn Amcanestyniadau Poblogaeth Uchel 2018 Llywodraeth Cymru ac mae'n seiliedig ar ragdybiaethau uchel ar gyfer ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo o gymharu â'r prif amcanestyniad. Mae'r ail, senario 5 Mlynedd PG (meddalwedd cwmni Pop Group), yn calibro amcanestyniadau poblogaeth/aelwydydd yn seiliedig ar batrymau mudo dros y 5 mlynedd diwethaf.
6.1.9 Gofynion tai newydd y senarios hyn yw 721 a 682 y flwyddyn, a'r twf cyflogaeth blynyddol fyddai 343 a 355 o swyddi yn y drefn honno.
Enw'r Senario Amcanestyniad |
Crynodeb |
Cyfanswm y newid yn y boblogaeth 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm y newid mewn aelwydydd 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm Anheddau (Anheddau'r flwyddyn) |
Twf Cyflogaeth y flwyddyn |
Amrywiad Uwch |
Yn seiliedig ar ragdybiaethau uwch ar gyfer ffrwythlondeb, disgwyliad oes a mudo o gymharu â'r Prif Amcanestyniadau Poblogaeth. |
13,490 (5.6%) |
10,238 (9.5%) |
10,815 (721) |
343 |
PG-5 mlynedd |
Yn calibro rhagdybiaethau mudo gan ddefnyddio data SYG ar gyfer Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn dros y 5 mlynedd diwethaf (2015/16 – 2019/20) |
12,135 (5.0%) |
9,686 (9.0%) |
10,230 (682) |
355 |
6.1.10 Byddai'r opsiynau ar gyfer twf uwch hyn yn cyd-fynd ymhellach â dyheadau'r meysydd twf cenedlaethol; cynyddu'r boblogaeth oedran gweithio a darparu mwy o dai fforddiadwy a swyddi. Fodd bynnag, mae ansicrwydd nodedig o hyd a thystiolaeth gyfyngedig y byddai modd i'r gofynion anheddau gael eu cyflawni neu eu cyflwyno'n realistig yn RhCT yng nghyfnod y cynllun hyd at 2037. Byddai hyn yn gofyn am gyfraddau adeiladu llawer uwch na'r cyfartaledd yn y gorffennol a galw disgwyliedig y farchnad (yn wir, efallai bod y CDLl cyfredol wedi bod yn rhy uchelgeisiol yn hyn o beth). Byddai'r angen am nifer uwch o dir newydd addas sydd ar gael i'w ddyrannu yn her. Yn gyffredinol, mae'r opsiynau ar gyfer twf uwch yn cael eu hystyried yn strategaeth risg uchel, gyda gofynion a dyheadau afrealistig efallai.
Senarios Twf Isel
6.1.11 Mae'r drydedd set o senarios twf yn cynnwys senario Poblogaeth Isel 2018-LlC. Yn wahanol i'r amrywiad 'uwch', mae'r amrywiad is yn seiliedig ar ragdybiaethau isel ar gyfer ffrwythlondeb, marwoldeb a mudo, o gymharu â'r Prif Amcanestyniad. Mae'r senario PG-Tymor Hir wedyn yn seiliedig ar ragdybiaethau mudo sy'n adlewyrchu Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol o 2001-2020 (19 mlynedd).
6.1.12 Gofynion tai newydd y senarios hyn yw 353 a 382 y flwyddyn, a'r twf cyflogaeth blynyddol fyddai 182 a 92 o swyddi yn y drefn honno.
Enw'r Senario Amcanestyniad |
Crynodeb |
Cyfanswm y newid yn y boblogaeth 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm y newid mewn aelwydydd 2022-37 (%y newid) |
Cyfanswm Anheddau (anheddau'r flwyddyn) |
Twf Cyflogaeth y flwyddyn |
Amrywiad Is |
Yn seiliedig ar ragdybiaethau is ar gyfer ffrwythlondeb, disgwyliad oes a mudo o gymharu â'r Prif Amcanestyniadau Poblogaeth. |
129 (0.1%) |
5,013 (4.7%) |
5,295 (353) |
182 |
PG-Tymor Hir |
Yn calibro rhagdybiaethau mudo gan ddefnyddio data SYG ar gyfer Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn (2001/02 – 2019/20) |
1,867 (0.8%) |
5,429 (5.1%) |
5,730 (382) |
92 |
6.1.13 Efallai ei bod yn haws cyflawni'r opsiynau ar gyfer twf is yn bennaf trwy safleoedd banc tir presennol, safleoedd annisgwyl a nifer is o ddyraniadau. Fodd bynnag, mae'r opsiynau ar gyfer twf hyn yn llai uchelgeisiol a bydden nhw rywfaint yn groes i ddyheadau'r Ardal Twf Genedlaethol sydd wedi'i nodi yn nogfen Cymru'r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol. Mae pryder cydnabyddedig hefyd na fyddai'r opsiynau ar gyfer twf hyn yn diwallu anghenion tai'r Fwrdeistref Sirol, o ran tai fforddiadwy a thai marchnad. Byddai'r effaith ar dwf poblogaeth hefyd yn achosi gostyngiad pellach yn y boblogaeth oedran gweithio.
Senarios ar sail Cyflogaeth
6.1.14 Y set olaf o senarios twf yw 'Oxford Economics (OE) a arweinir gan Gyflogaeth' ac 'ar sail Polisi a arweinir gan Gyflogaeth'. Mae'r cyntaf yn ystyried beth fyddai effaith dull gweithredu 'heb fod ar sail Polisi', lle mae twf poblogaeth yn cael ei llywio gan y tueddiadau twf cyflogaeth a ragwelir, heb unrhyw ymyrraeth polisi. Ar y llaw arall, mae'r senario ar sail Polisi a Arweinir gan Gyflogaeth yn ystyried yr effaith ar dwf y boblogaeth, wedi'i llywio gan ymyrraeth mewn tueddiadau cyflogaeth. Mae'r Grŵp BE ar y cyd â PER Consulting wedi paratoi papur sail tystiolaeth Adolygiad Tir Cyflogaeth sy'n nodi addasiadau i ragolygon Oxford Economics; ac yn rhagdybio ymyrraeth polisi economaidd penodol i gefnogi twf yn bennaf yn nosbarthiadau defnydd tir diwydiannol B2/B8.
6.1.15 Gofynion tai newydd y senarios hyn yw 447 a 588 y flwyddyn, a'r twf cyflogaeth blynyddol fyddai 32 a 168 o swyddi yn y drefn honno.
Enw'r Senario Amcanestyniad |
Crynodeb |
Cyfanswm y newid yn y boblogaeth 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm y newid mewn aelwydydd 2022-37 (% y newid) |
Cyfanswm Anheddau (Anheddau'r flwyddyn) |
Twf cyflogaeth y flwyddyn |
OE a arweinir gan Gyflogaeth |
Yn modelu twf y boblogaeth ar sail rhagolwg Oxford Economics ar gyfer twf cyflogaeth o +32 y flwyddyn. |
3,725 (1.5%) |
6,348 (5.8%) |
6,705 (447) |
32 |
Ar sail Polisi a arweinir gan Gyflogaeth |
Yn modelu twf y boblogaeth ar sail y twf cyflogaeth blynyddol cyfartalog wedi'i addasu o +168 y flwyddyn ar gyfer RhCT, gan ragdybio twf yn bennaf yn y dosbarthiadau defnydd tir diwydiannol. |
8,416 (3.4%) |
8,357 (7.6%) |
8,820 (588) |
168 |
6.1.16 Mae'r senarios a arweinir gan gyflogaeth yn darparu opsiynau realistig a chyraeddadwy, er bod gan y ddau senario ddeilliannau gwahanol. Rhagwelir y bydd y ddau senario'n arwain at ostyngiad yn y boblogaeth oedran gweithio erbyn diwedd cyfnod y cynllun, er bod hyn yn llawer mwy arwyddocaol yn y senario OE (gostyngiad o 2.75%) na'r senario ar sail Polisi (gostyngiad o 0.65%). Yn debyg i'r senarios ystod ganolig, byddai'r opsiynau ar gyfer twf hyn yn annhebygol o gyflawni'r angen a nodwyd o dai fforddiadwy, fel y nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol Canfyddiadau Drafft 2024. Ystyrir bod y senario OE yn arbennig yn annhebygol o fod yn briodol ar gyfer RhCT, oherwydd rhagolygon isel o dwf cyflogaeth a thwf tai.
Yr Opsiwn Twf a Ffefrir ar gyfer y CDLl Diwygiedig – Prif Amcanestyniadau 2018 Llywodraeth Cymru.
6.1.17 O ystyried y dadansoddiad, mae tri opsiwn yn sefyll allan fel yr opsiynau ar gyfer twf mwyaf priodol ar gyfer y CDLl Diwygiedig, sef y ddau senario demograffig ystod ganolig a'r senario cyflogaeth ar sail Polisi. Rhagwelir y bydd y rhain yn darparu'r lefelau mwyaf priodol ac ystyriol o dwf tai a thwf cyflogaeth. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd yr opsiwn olaf yn darparu llai o swyddi newydd na'r senarios demograffig ystod ganolig ac yn cael effaith negyddol ar y boblogaeth oedran gweithio.
6.1.18 O'r ddau senario twf ystod ganolig, ystyrir bod opsiwn Prif Amcanestyniad 2018-LlC yn cynhyrchu deilliannau ffafriol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol o gymharu â'r amrywiad 5 mlynedd ar sail Anheddau. Bydd y gofyniad tai uwch sy'n gysylltiedig ag opsiwn 2018-LlC yn arwain at fwy o dai fforddiadwy a thai marchnad yn cael eu hadeiladu. Mae'n darged tai mwy uchelgeisiol gan ei fod tua 10% yn uwch na'r gyfradd cwblhau tai cyfartalog dros y 5 mlynedd diwethaf, ond hefyd yn cyd-fynd â'r maes twf cenedlaethol. Mae'r dull dadansoddi a'i baramedrau hefyd yn dangos y byddai hyn yn darparu dros 1,000 yn fwy o swyddi newydd na'r opsiwn twf 5mlynedd ar sail Anheddau. Rhagwelir ymhellach y bydd opsiwn 2018-LlC yn rhagweld cynnydd ym mhoblogaeth oedran gweithio RhCT.
6.1.19 Cydnabyddir bod cyflawni'r angen am dai a nodwyd yn heriol iawn ond mae ceisio diwallu amcanestyniadau 2018-LlC yn rhoi'r cyfle gwell i ddarparu amrywiaeth o dai newydd o ansawdd uchel, gan gynnwys tai fforddiadwy. Teimlir na fyddai'n briodol dyheu am lefelau twf is na'r rhain; er, byddai hyn yn amodol ar sicrhau bod modd i CDLl Diwygiedig RhCT roi tystiolaeth lawn o sicrwydd ynghylch ei gyflawni, drwy gydol cyfnod paratoi'r cynllun.
6.1.20 Mae'r Papur Cyflenwad Tai yn nodi'r dystiolaeth i ddangos sut mae modd cyflawni'r opsiwn twf yma o 8,450 o anheddau (gyda byffer ychwanegol a phriodol o dir ar gyfer tai). Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy'r banc tir tai, cyfanswm cychwynnol o dir o Safleoedd Ymgeisiol a allai fod yn addas a chyfraniad o dir tai annisgwyl tebygol.
Mae papur yr Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r polisi cyflogaeth strategol yn ddiweddarach yn y Strategaeth a Ffefrir, hefyd yn nodi sut y bydd y CDLl Diwygiedig yn ceisio cyflawni'r twf cyflogaeth arfaethedig.
Ystyriaethau Awdurdodau Lleol Cyfagos a Rhanbarth De Ddwyrain Cymru
6.1.21 Mae angen nodi bod yna lefelau uchel o ddarpariaeth tai arfaethedig wedi'i gynnig mewn ACLlau cyfagos a De-ddwyrain Cymru yn gyffredinol, ac mae hyn wedi creu ystyriaeth ychwanegol y mae'n rhaid i RhCT ei hystyried. Mae llawer o'r twf yma'n uwch nag amcanestyniadau twf uwch LlC ar gyfer yr Awdurdodau priodol. Mae dadansoddiadau ac adroddiadau rhanbarthol hefyd yn nodi cynigion ar gyfer twf sy'n sylweddol uwch na lefelau'r FfDC. Mae ein dadansoddiad o'n sail tystiolaeth yn dangos rhywfaint o gyd-ddibyniaeth rhwng ein marchnad tai ni a marchnadoedd tai ein cymdogion. Mae hyn i gyd wedi cael ei ystyried yn llawn gan RhCT. Fodd bynnag, bydd materion ar y gweill bob amser, a chynigion mewn awdurdodau cyfagos, a fydd yn parhau y tu allan i'n rheolaeth ac a allai fod yn destun newid.
6.1.22 Mae'r Prif Amcanestyniadau y mae RhCT wedi penderfynu cynllunio ar eu cyfer, yn parhau i fod yn gyfrannol is nag eraill, ac yn cyd-fynd â Pholisi Cenedlaethol. Mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau ein bod ni'n deall yn llawn ein hanghenion tai, economaidd a demograffig ein hunain yn RhCT. Dylai'r CDLl Diwygiedig sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r anghenion penodol hyn ac yn eu diwallu, ein bod ni'n cyflawni ein dyheadau ein hunain ar gyfer twf priodol yn RhCT, ochr yn ochr ag ystyried ardaloedd twf rhanbarthol y FfDC ac awdurdodau cyfagos.