Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 17 Ebrill 2024

Adran 5 – Yr Asesiad Aneddiadau a'r Hierarchaeth Aneddiadau

5.1 Cyflwyniad

5.1.1 Rhan allweddol o broses y CDLl Diwygiedig yw cynnal Asesiad Aneddiadau sy'n llywio'r gwaith o nodi Hierarchaeth Aneddiadau. Dylai hyn sicrhau bod penderfyniadau ar leoliad datblygiad yn y CDLl Diwygiedig yn ystyried materion megis patrymau twf cynaliadwy, cynnal gwasanaethau a chyfleusterau, a'r berthynas rhwng maint aneddiadau a sut maen nhw'n cael eu defnyddio gan bobl.

5.1.2 Mae'r Cyngor wedi ymgymryd â'r broses yma i benderfynu a yw'r hierarchaeth gyfredol yn gywir o hyd. Caiff hyn ei nodi'n fanylach yn y Papur Asesu Aneddiadau a Hierarchaeth Aneddiadau. Roedd yr asesiad yn seiliedig ar Hierarchaeth Aneddiadau cyfredol y CDLl o'r cychwyn cyntaf.

5.1.3 Cafodd y fethodoleg ranbarthol y cytunwyd arni ei defnyddio ar gyfer cynnal Asesiadau Aneddiadau yn y lle cyntaf; er, fel y mae'r papur yn ei nodi, cafodd ystyriaethau priodol ychwanegol eu gwneud. Cafodd asesiadau ansoddol a meintiol eu cynnal, gan gynnwys dadansoddiad cynhwysfawr iawn o'r holl aneddiadau. Cafodd aneddiadau eu hasesu i ganfod y berthynas rhyngddyn nhw, eu cymwysterau cynaliadwyedd, lefel y gwasanaethau a'r cyfleusterau oedd yn bresennol a'u hagosrwydd atyn nhw, maint y boblogaeth, pellter o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a'u hamlder, a chanran y siaradwyr Cymraeg oedd yn bresennol. Roedd hyn yn y pen draw er mwyn pennu eu gallu a'u capasiti i gynnwys datblygiad pellach.

Hierarchaeth Aneddiadau'r CDLl Diwygiedig

5.1.4 Roedd deilliannau'r Asesiad Aneddiadau yn dangos bod angen nifer fach o ddiwygiadau i Hierarchaeth Aneddiadau cyfredol y CDLl.

5.1.5 Yn gyntaf, er mwyn gwahaniaethu'n gliriach â'r Hierarchaeth Manwerthu sydd â chysylltiad agos, cyfeirir at 'Brif Drefi' bellach fel 'Prif Aneddiadau.'

5.1.6 Yn ail, mae Pont-y-clun wedi'i nodi fel anheddiad llai yn y CDLl cyfredol, (er ei fod o fewn Prif Dref Llantrisant/Tonysguboriau mewn fersiynau cynharach o broses paratoi'r CDLl cyfredol). Fodd bynnag, daeth yr Asesiad Aneddiadau i'r casgliad bod Pont-y-clun bellach yn rhan o'r hyn sydd bellach yn Brif Anheddiad, o ystyried y perthnasoedd rhyngddibynnol, cymdeithasol, economaidd a daearyddol clir rhwng y lleoedd hyn. O hyn ymlaen, cyfeirir at y Prif Anheddiad yma fel 'Tonysguboriau, Pont-y-clun a Llantrisant'. Ystyrir bod yr ardaloedd tai a chyflogaeth drwyddi draw yn anwahanadwy, yng nghyd-destun yr anheddiad mwy. Mae trigolion Tonysguboriau, Pont-y-clun a Llantrisant yn dibynnu ar y cyfleoedd masnachol a'r cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus ledled yr anheddiad, sy'n gydgysylltiedig.

5.1.7 Hefyd, mae pentref Llwydcoed bellach yn cael ei ystyried yn anheddiad llai, gan ei fod ychydig yn fwy ar wahân na'r lleoedd hynny sy'n rhan o Brif Anheddiad Aberdâr (sef Aberdâr, Aberaman, Aber-nant, Trecynon a Chwmdâr). Mae Llwydcoed yn debycach i aneddiadau Cwm-bach ac Abercwmboi/Cwmaman, oherwydd er eu bod yn cadw perthynas ryngddibynnol ag Aberdâr, maen nhw'n fwy ar wahan ac yn fwy annibynnol.

5.1.8 Mae'r holl aneddiadau eraill o fewn yr Hierarchaeth wedi aros yr un fath felly mae Hierarchaeth Aneddiadau'r Fwrdeistref Sirol fel a ganlyn:

Prif Aneddiadau

Aberdâr

Tonysguboriau, Pont-y-clun a Llantrisant

Pontypridd

5.1.9 Bydd y Prif Aneddiadau yn parhau i fod y prif ganolfannau a phyrth pwysig ar gyfer buddsoddiad newydd, arloesi a datblygu cynaliadwy. Mae hyn ar lefel RhCT ac ar lefel ranbarthol. Mae gan y Prif Aneddiadau gysylltiadau sylweddol o drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, sy'n hwyluso symud o amgylch y Fwrdeistref Sirol a'r rhanbarth ehangach.

Aneddiadau Allweddol

Glynrhedynog

Porth

Hirwaun

Tonypandy

Llanharan

Tonyrefail

Aberpennar

Treorci

5.1.10 Mae Aneddiadau Allweddol yn llai yn ddaearyddol ac yn llai arwyddocaol yn strategol na'r Prif Aneddiadau. Serch hynny, mae'r aneddiadau hyn yn hynod o bwysig, gan weithredu fel canolfannau ar gyfer gweithgareddau masnachol a chymunedol a datblygiad a buddsoddiad cynaliadwy. At hynny, mae gan fwyafrif yr Aneddiadau Allweddol y cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus angenrheidiol i gefnogi twf.

Aneddiadau Llai

De Aberaman

Maerdy

Abercynon

Penrhiwceiber

Beddau

Pentre

Pentre'r Eglwys

Pen-y-waun

Cilfynydd

Rhigos

Cwm-bach

Rhydfelen

Cymer

Ffynnon Taf

Efail Isaf

Ton-teg

Gilfach-goch

Treherbert

Glyn-coch

Tylorstown

Y Ddraenen-wen

Ynys-hir

Llanhari

Ynys-y-bwl

Llanilltud Faerdref

Ystrad

Llwydcoed

5.1.11 Yn yr un modd â'r Prif Aneddiadau a'r Aneddiadau Allweddol, mae Aneddiadau Llai wedi'u lleoli'n gynaliadwy gyda gwasanaethau a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi datblygiad. Bydd yr Aneddiadau Llai yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r Strategaeth drwy gefnogi bywiogrwydd yr aneddiadau lefel uwch a darparu ar gyfer lefelau twf. Byddan nhw'n helpu i ddiwallu anghenion cymunedau lleol, gan gadw ac ehangu'r ddarpariaeth o wasanaethau a chyfleusterau.

Aneddiadau y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Enw

Lleoliad

Math

Teras Trem y Gogledd

Aberaman

2

Goitre Coed Isaf

Abercynon

2

Llys Gelynog

Beddau

1

Blaen-cwm

Blaen-cwm

1

Coed-elái

Coed-elái

1

Teras Pwllfa Dâr

Cwmdâr

2

Heol Creigiau

Efail Isaf

1

Groes-faen

Groes-faen

1

Heol yr Arhosfan

Hirwaun

2

Coedlan Seymour

Llanharan

2

Dyffryn Meiros

Llanharan

1

Trem-y-Fforest

Llanhari

2

Degar

Llanhari

1

Gwaun Llanhari

Llanhari

1

Castell-y-Mwnws

Llanhari

1

Mwyndy

Llantrisant

1

Greys Place

Llwydcoed

2

Pantaquesta

Meisgyn

1

Yr Ucheldir

Penycoedcae

1

Penycoedcae

Penycoedcae

1

Cefn Rhigos

Rhigos

1

Rhiwsaeson

Rhiwsaeson

1

Talygarn

Talygarn

1

Talygarn House

Talygarn

1

Pantybrad

Tonyrefail

1

Maes Tyle-coch

Treorci

2

Ynysmaerdy

Ynysmaerdy

1

Trem Hyfryd

Ynys-y-bwl

2

Y Darren-ddu

Ynys-y-bwl

1

5.1.12 Mae'r Hierarchaeth Aneddiadau hefyd yn cydnabod bod yna 29 o aneddiadau o ddeg neu ragor o anheddau y tu allan i'r ffiniau aneddiadau sydd wedi'u diffinio. Yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, dydy'r aneddiadau hyn ddim yn addas ar gyfer datblygiad pellach gan eu bod nhw mewn lleoliadau anghynaliadwy a fydden nhw ddim yn diwallu'r Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy.

Anheddiad Math 1 – Clwstwr o anheddau

Anheddiad Math 2 – Teras neu stryd

5.1.13 Dylid nodi hefyd bod yr Hierarchaeth Aneddiadau cyffredinol wedi'i chysylltu'n annatod â'r Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu a Masnachol sydd wedi'i nodi mewn polisi strategol yn ddiweddarach yn y Strategaeth a Ffefrir. Fodd bynnag, dylid nodi, o'r pwynt hwn ymlaen yn y CDLl, bod yr hyn y cyfeiriwyd ato fel y Canolfannau Manwerthu a Masnachol (a'r papur hierarchaeth cefndir) bellach yn cael ei alw'n 'Ganolfannau Aneddiadau' h.y. canolfannau'r aneddiadau yn yr Hierarchaeth Aneddiadau.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig