Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 17 Ebrill 2024

Adran 4 – Gweledigaeth ac Amcanion

Cyflwyniad

4.1.1 Mae Gweledigaeth a chyfres o Amcanion ategol wedi'u llunio ar gyfer y CDLl Diwygiedig i sicrhau bod y cynllun yn mynd i'r afael â'r Materion allweddol a nodwyd. Mae'n nodi pwrpas y cynllun a sut mae bwriad i RCT newid a datblygu dros gyfnod y cynllun hyd at 2037. Mae'r Weledigaeth a'r Amcanion yn gydgysylltiedig a dylid eu hystyried gyda'i gilydd.

4.1.2 Mae'r Weledigaeth yn cyd-fynd â strategaethau a pholisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol. Mae Cynllun Corfforaethol a Chynllun Llesiant y Cyngor wedi llywio Gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn uniongyrchol, ochr yn ochr â'r Materion a nodwyd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod synergedd a chysondeb rhwng y tair dogfen, sy'n anelu at yr un deilliant yn gyffredinol ar gyfer RhCT.

4.1.3 Mae'r themâu cyson sydd wedi dod i'r amlwg o'r uchod yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, iechyd, cymunedau cydlynol a phwysigrwydd yr amgylchedd a mannau gwyrdd. Mae'r Weledigaeth wedi'i llunio ar y sail yma.

4.1.4 Mae Rhondda Cynon Taf yn lle nodedig iawn gyda hanes cyfoethog, diwylliant, bywyd gwyllt pwysig, tirweddau hardd a chymunedau cyfeillgar. Yr hyn sydd hefyd yn nodedig am ardal RhCT yw'r gwahaniaethau rhwng lleoedd. Dechreuodd y CDLl blaenorol ar y gwaith o gydnabod a mynd i'r afael â'r gwahaniaethau hyn, ac adeiladu ar y cryfderau. Bydd y CDLl Diwygiedig hyn yn parhau â'r gwaith da yma ac yn adeiladu ar y llwyddiannau y mae wedi'u gweld.

Gweledigaeth

4.1.5 Y Weledigaeth erbyn 2037 yw RhCT mwy cydnerth a chynaliadwy:

Ardal sydd â chymunedau cynaliadwy, cydlynol sy'n iach, wedi'u cysylltu'n dda ac sydd â mynediad cyfartal i gartrefi, swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel.

Ardal sy'n fwy cydnerth ac ystyriol i'r heriau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, gyda bioamrywiaeth a mannau gwyrdd wedi'u diogelu a'u gwella a system drafnidiaeth gynaliadwy sydd â chysylltiadau da.

Ardal ag economi amrywiol ac iach, gyda chanol trefi bywiog a hyfyw a sector twristiaeth lewyrchus. RhCT sy'n dathlu ei threftadaeth ac sy'n gydnerth ar gyfer y dyfodol.

4.1.6 Bydd y Weledigaeth yn cael ei chyflawni drwy Amcanion y Cynllun, sydd wedi'u nodi yn yr adran nesaf.

Amcanion y CDLl Diwygiedig

4.1.7 Mae angen paratoi Amcanion Clir ar ddechrau'r CDLl Diwygiedig. Maen nhw'n nodi'n fanwl y bwriadau ehangach yng Ngweledigaeth y CDLl Diwygiedig. Bydd yr Amcanion hyn yn cael eu monitro drwy gydol cyfnod y cynllun, a fydd yn y pen draw yn dangos a yw'r CDLl Diwygiedig wedi'i gyflawni'n llwyddiannus.

4.1.8 Mae'r amcanion wedi'u llunio o'r Weledigaeth ac wedi'u llywio'n helaeth gan ehangder y Materion sydd wedi'u dangos yn yr adran flaenorol. Mae rhagor o fanylion am sut mae'r Materion a'r Weledigaeth wedi llywio'r gwaith o baratoi'r Amcanion i'w gweld yn y Papur Gweledigaeth, Materion ac Amcanion.

4.1.9 Ymhellach, cafodd Amcanion penodol eu nodi ar gyfer y broses Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd, sydd hefyd yn adlewyrchu polisïau, strategaethau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gynnwys Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg.

4.1.10 Penderfynwyd bod 15 Amcan a nodwyd yn yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd yn gwbl briodol i'w datblygu fel Amcanion cyffredinol y CDLl Diwygiedig, gan eu bod yn cyd-fynd yn llawn â'n Gweledigaeth a'n Materion a nodwyd. Yna mae 3 Amcan arall wedi'u nodi na fyddai'n rhan o broses yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd, sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol i'w cyflawni gan y CDLl Diwygiedig.

4.1.11 Felly, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r CDLl Diwygiedig a'i Weledigaeth, mae 18 o Amcanion penodol wedi'u nodi ac wedi'u rhestru isod.

4.1.12 O dan bob amcan penodol, mae nodau cysylltiedig wedi'u cynnwys i roi rhywfaint o wybodaeth am y mathau o feysydd yn rhan o'r pwnc, y gellid eu defnyddio fel sail i bolisïau manwl, wrth i'r gwaith o baratoi'r cynllun symud ymlaen i'r drafft adneuo.

Amcan 1: Lliniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a lleihau perygl llifogydd

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Cefnogi'r cynnydd mewn seilwaith cerbydau trydan.
  • Lleoli datblygiadau mewn lleoliadau cynaliadwy.
  • Sicrhau bod lleoliadau cyflogaeth yn hygyrch i bawb.
  • Diogelu a gwella mynediad i ardaloedd â mannau gwyrdd a mannau agored o ansawdd da yn RhCT.
  • Diogelu, gwella a darparu asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas pellach ar gyfer eu rolau aml-swyddogaeth.
  • Parhau i reoli ein hasedau naturiol yn RhCT mewn ffordd fwy cydlynol, gan geisio nodi'r buddion amlochrog o hyn hefyd.
  • Cynyddu cynhyrchiant a chyflenwad ynni adnewyddadwy a, lle bo modd, lleihau'r defnydd o ynni sy'n cynhyrchu carbon.
  • Lleihau effeithiau llifogydd a sicrhau nad yw datblygiadau a chymunedau mewn perygl o lifogydd.
  • Parhau i nodi, rheoli, gwarchod a gwella seilwaith gwyrdd ac asedau naturiol eraill, gan geisio nodi manteision megis helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Hyrwyddo a ble y bo'n addas mynnu dylunio cynaliadwy/carbon sero net ledled RhCT.
  • Cadw a gwella ein tirweddau sy'n llawn bioamrywiaeth er mwyn cynyddu cydnerthedd cynefinoedd a rhywogaethau mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Amcan 2: Darparu nifer a chymysgedd priodol o dai i ddiwallu anghenion lleol

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Darparu amrywiaeth yn y farchnad dai drwy gyflwyno amrywiaeth o fathau a meintiau o dai sy'n darparu ar gyfer anghenion pob cymuned yn RhCT.
  • Cynyddu nifer y tai o ansawdd da sy'n fforddiadwy ar draws marchnadoedd cymdeithasol a marchnadoedd preifat.
  • Darparu safleoedd tai hyfyw yn RhCT ac annog datblygiad tir llwyd.
  • Lleihau nifer yr eiddo gwag yn RhCT a dod â nhw yn ôl i ddefnydd am nifer o resymau buddiol.
  • Cynyddu nifer y tai newydd sy'n cael eu hadeiladu i safon gynaliadwy / carbon sero net ac ôl-osod y stoc bresennol lle bo modd.
  • Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a'u heffeithiau'n briodol.
  • Cyflawni safon uchel o ddylunio a chreu lleoedd mewn datblygiadau.
  • Ceisio nodi safleoedd addas ar gyfer datblygiadau tai newydd ym mhob rhan o RCT i ganiatáu ar gyfer anghenion tai a chyfleoedd i bawb.
  • Darparu ar gyfer anghenion tai poblogaeth sy'n heneiddio, a hynny mewn adeiladau newydd a'r stoc tai presennol.
  • Darparu cartrefi o ansawdd uchel.
  • Yr angen i ddarparu tai priodol a digonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Amcan 3: Hyrwyddo cymunedau bywiog, gyda chyfleoedd i fyw, gweithio a chymdeithasu i bawb

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n briodol, yn hygyrch ac yn ddigonol i gymunedau presennol a chynyddol RhCT.
  • Hyrwyddo cymunedau integredig, gyda chyfleoedd i bawb fyw, gweithio a chymdeithasu.
  • Nodi hierarchaeth addas o'r holl ganolfannau manwerthu, sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar lefel ranbarthol, leol a chymdogaeth.
  • Ceisio cefnogi addysg a hyfforddiant yn RhCT lle bo modd.
  • Cyflawni safleoedd cyflogaeth newydd o safon uchel ac wedi'u hailddatblygu.
  • Gwella seilwaith yn RhCT a lleihau tagfeydd.
  • Gwella lefelau addysg a hyfforddiant yn RhCT.
  • Sicrhau bod digon o leoedd ysgol lle mae poblogaethau a'r galw am leoedd ysgol yn esblygu, yn enwedig lle mae datblygiad newydd yn digwydd.
  • Cyflawni safon dylunio uchel ar gyfer pob datblygiad a'u deiliaid.

Amcan 4: Annog ffyrdd iach a diogel o fyw sy'n hybu lles ac yn gwella lefelau iechyd yn gyffredinol yn RhCT.

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Cefnogi darpariaeth gofal iechyd a chyfleusterau digonol, gyda mynediad iddyn nhw.
  • Diogelu a gwella mynediad i ardaloedd â mannau gwyrdd a mannau agored o ansawdd da yn RhCT. Mae modd i hyn gyfrannu at iechyd a lles corfforol a meddyliol gwell ar gyfer trigolion ledled RhCT.
  • Chwilio am gyfleoedd i fynd i'r afael â throseddau trwy gynllunio yn RhCT, er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld yn teimlo'n ddiogel.
  • Diogelu, gwella a darparu asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas pellach ar gyfer eu rolau aml-swyddogaeth.
  • Parhau i reoli, diogelu a gwella seilwaith gwyrdd ac asedau naturiol eraill, gan geisio nodi manteision megis gwella natur a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Amcan 5: Lleihau'r angen i deithio a hyrwyddo dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Lleoli datblygiadau mewn lleoliadau cynaliadwy sydd â mynediad da at ystod o ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
  • Gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus/cynaliadwy o ran ansawdd, lleoliad a chost.
  • Gwella amlder trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd gwahanol ddulliau er mwyn caniatáu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n fwy cyfannol.
  • Cefnogi amcanion a chyflawniad Metro De Cymru.
  • Gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn RhCT rhwng gwahanol ardaloedd a gwahanol ddulliau.
  • Gwella'r rhwydwaith teithio llesol ac annog pawb i'w ddefnyddio.

Amcan 6: Hyrwyddo, gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd adeiledig.

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Diogelu, cadw, hyrwyddo a gwella'r amgylchedd hanesyddol (adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth ac asedau treftadaeth) fel adnodd ar gyfer llesiant cyffredinol cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
  • Ceisio datblygu cyfleoedd i ymestyn y diwydiant twristiaeth dreftadol yn RhCT.
  • Cefnogi diwylliant y celfyddydau a threftadaeth gysylltiedig RhCT.

Amcan 7: Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Cefnogi iaith Gymraeg sy'n ffynnu mewn cysylltiad â nodi lleoliadau datblygu.
  • Cefnogi a sefydlu'r amodau yn RhCT, sy'n caniatáu i'r Gymraeg ffynnu.

Amcan 8: Gwarchod a gwella ansawdd a chymeriad y dirwedd

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Gwarchod a gwella ein tirweddau unigryw sydd o bosibl yn sensitif i bwysau datblygu

Amcan 9: Gwarchod a gwella bioamrywiaeth

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a nodweddion ecolegol rhag datblygiad amhriodol a'i effeithiau cysylltiedig.
  • Nodi'r ecoleg a'r fioamrywiaeth mewn ardaloedd ag etifeddiaeth mwyngloddio.
  • Cydnabod y rôl unigryw sydd gan yr adnodd cyfoethog o gynefin lled-naturiol ac amrywiaeth y rhywogaethau yn RhCT fel asedau ar gyfer llesiant trigolion RhCT.
  • Cydnabod, rheoli a gwarchod ecoleg a bioamrywiaeth unigryw ein hetifeddiaeth mwyngloddio, gan integreiddio hyn yn effeithiol â gofynion diogelwch a chynnal a chadw tomennydd.

Amcan 10: Diogelu ansawdd a nifer yr adnoddau dŵr yn RhCT

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Diogelu, gwella a darparu asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas pellach ar gyfer eu rolau aml-swyddogaeth.
  • Gwella'r amgylchedd dŵr a cheisio mynd i'r afael â'r effeithiau negyddol arno.

Amcan 11: Gwarchod a gwella ansawdd aer a sicrhau seinweddau priodol

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Ceisio gwella ansawdd aer ar draws y Fwrdeistref Sirol.
  • Ceisio gwella seinweddau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Amcan 12: Hyrwyddo defnydd effeithlon o dir, priddoedd a mwynau

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Annog cyflawniad gwaith datblygu tir llwyd.
  • Rheoli ein hasedau naturiol yn RhCT yn well mewn ffordd fwy cydlynol, sy'n nodi ac yn darparu buddion amlochrog sy'n cefnogi ei gilydd.
  • Sicrhau bod holl waith echdynnu chwarel yn briodol, yn angenrheidiol ac yn unol â'r holl safonau ac amodau.
  • Hyrwyddo defnydd effeithlon a phriodol o fwynau, gan gynnwys diogelu adnoddau a sicrhau bod cronfeydd digonol yn cael eu dyrannu i ddiwallu anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Annog ailgylchu ac ailddefnyddio agregau a deunyddiau adeiladu, lle bo modd.

Amcan 13: Parhau i leihau'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu a hyrwyddo dulliau rheoli gwastraff mwy cynaliadwwy

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Parhau i annog, cefnogi a gwella ailgylchu yn RhCT, a chefnogi lleihau gwastraff yn gyffredinol.
  • Sicrhau bod stadau tai newydd o bob maint wedi'u dylunio'n briodol i ganiatáu i gerbydau mwy eu cyrraedd, yn enwedig ar gyfer casglu gwastraff.
  • Sicrhau bod yr holl wastraff gweddilliol nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei waredu mewn modd cynaliadwy nad yw'n creu unrhyw lygredd.
  • Cefnogi'r economi gylchol i sicrhau bod asedau, deunyddiau, cynhyrchion a chydrannau adeiledig yn cael eu hailddefnyddio ac yn parhau i gael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd.

Amcan 14: Darparu ar gyfer economi gynaliadwy

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Lleihau lefelau amddifadedd yn RhCT a cheisio cefnogi cyfleoedd cyflogaeth.
  • Mynd i'r afael ag effaith y coronafeirws yn RhCT.
  • Darparu ar gyfer economi gynaliadwy.
  • Ceisio datblygu cyfleoedd i ymestyn y diwydiant twristiaeth dreftadol yn RhCT.

Amcan 15: Darparu ar gyfer ystod amrywiol o gyfleoedd gwaith

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Cefnogi safleoedd cyflogaeth presennol ledled RhCT a cheisio adfywio'r stoc hŷn ac adfeiliedig ar safleoedd. Dyrannu cyfleoedd cyflogaeth newydd mewn lleoliadau priodol.
  • Darparu ystod amrywiol o gyfleoedd gwaith.
  • Cynyddu nifer y cyfleoedd gwaith yn RhCT.
  • Cynyddu nifer y cyfleoedd cyflogaeth yng nghanol trefi.

Amcan 16: Hyrwyddo Canol Trefi bywiog, hyblyg a chydnerth

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Cefnogi ac annog rôl newidiol ac amrywiaethu priodol ar gyfer canol trefi neu ganolfannau masnachol a rhoi hyblygrwydd iddyn nhw addasu i newid.
  • Darparu tai priodol mewn lleoliadau canol trefi ar y raddfa gywir a ddylai gynyddu bywiogrwydd canol trefi.
  • Parhau i ddarparu seilwaith digonol a phriodol yng nghanol trefi, gan gynnwys cysylltu'r holl ddulliau trafnidiaeth, trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau teithio llesol
  • Creu hierarchaeth fanwerthu briodol, sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar lefel ranbarthol, leol a chymdogaeth.
  • Cynyddu nifer y cyfleoedd cyflogaeth yng nghanol trefi.

Amcan 17: Mynd i'r afael ag ôl-effeithiau mwyngloddio yn RhCT

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Mynd i'r afael yn briodol â'r risg sy'n gysylltiedig â thomennydd o'r diwydiant glo a gwaith mwyngloddio eraill.
  • Ceisio nodi opsiynau i ailddatblygu safleoedd tir llwyd sy'n cael eu heffeithio gan ein hetifeddiaeth mwyngloddio, ar y ddaear ac o dan y ddaear.
  • Sicrhau bod safleoedd etifeddiaeth mwyngloddio yn cael eu hadfer yn briodol.
  • Cydnabod ecoleg a bioamrywiaeth mewn ardaloedd o etifeddiaeth mwyngloddio.

Amcan 18: Cefnogi twf y sector twristiaeth a hamdden

Nodau ac amcanion cysylltiedig

  • Helpu i gefnogi darparu llety addas ar gyfer y sector twristiaeth.
  • Cefnogi twf twristiaeth a chyfleoedd cysylltiedig yn RhCT.
  • Cefnogi twf twristiaeth eco/gwyrdd yn RhCT.
  • Gwella cyfleusterau twristiaeth a seilwaith cysylltiedig a hygyrchedd i bawb.
  • Cefnogi'r sector hamdden a'i anghenion a gwaith datblygu sy'n esblygu.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig