Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir
Adran 2 – Cyd-destun Cenedlaethol a Rhanbarthol a Sail Tystiolaeth Leol
Ystyriaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol
2.1.1 Rhaid i'r CDLl Diwygiedig a'i Strategaeth a Ffefrir gydymffurfio'n gyffredinol â rheoliadau, cynlluniau, polisïau a chanllawiau eraill ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Yn unol â hynny, mae'r rhain wedi helpu i baratoi'r Strategaeth a Ffefrir, ynghyd â'r Sail Tystiolaeth ac fe'u rhestrir isod, ochr yn ochr â'u perthynas â'r Strategaeth a Ffefrir.
Cenedlaethol
Mae'r dogfennau cenedlaethol canlynol yn berthnasol ledled Cymru:
Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, 2021
Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, o'r enw 'Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040' yw'r haen uchaf o gynllun datblygu yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer twf, datblygu a buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru tan 2040. Mae'n pennu strategaeth a pholisïau strategol ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau cydnerth a gwella iechyd a llesiant cymunedau yng Nghymru.
Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11), 2021
Mae Polisi Cynllunio Cymru 11 yn nodi'r polisïau cynllunio ar gyfer defnydd tir a'r fframwaith cyffredinol ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gynnwys yr egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i mewn i bolisi cynllunio cenedlaethol. Yn yr un modd â'r ddogfen flaenorol, sef Polisi Cynllunio Cymru 10, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynllunwyr groesawu'r cysyniad o greu lleoedd wrth wneud penderfyniadau cynllunio a rheoli datblygu, er mwyn sicrhau lleoedd cynaliadwy. O gofio bod creu lleoedd yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru); y gred yw bydd raid manteisio ar asedau, ysbrydoliaeth a photensial y gymuned leol, gyda'r bwriad o greu datblygiad sy'n hybu iechyd, hapusrwydd a lles pobl.
Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3), 2020
Mae'r Llawlyfr yn rhoi canllawiau ymarferol cyfredol ac addas i'r diben ar baratoi cynllun. Fel y cyfryw, ers cyflwyno llu o ddeddfwriaeth gynllunio o tua 2013 ymlaen, ochr yn ochr â newidiadau i bolisi cenedlaethol, ystyriwyd ei bod yn adeg briodol i ddechrau diwygio'r ddogfen. Mae newidiadau'n cynnwys yr opsiwn i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynnal 'Asesiad Cynaliadwyedd Integredig'. Mae hyn yn cynnwys Gwerthusiad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol a hefyd elfennau allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Deddf Cydraddoldeb, Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg ac ar Iechyd. Bydd cynnwys y rhain yn galluogi asesiad sy'n fwy tryloyw, cyfannol a chyflawn o oblygiadau cynaliadwyedd y cynllun.
Adeiladu Lleoedd Gwell Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair - Creu lleoedd a'r adferiad Covid-19, 2020
Mae'r papur, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020, yn tynnu sylw at y polisïau a'r offer cynllunio allweddol cyfredol y dylid eu defnyddio i gynorthwyo adfer Cymru, yn dilyn pandemig byd-eang COVID-19. Mae'r papur yn annog cynllunwyr i arddangos creadigrwydd a dyfeisgarwch wrth gynnig atebion ac ymatebion arloesol i adferiad amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, ar bob graddfa. Mae'r papur yn annog awdurdodau cynllunio lleol i fod yn feiddgar yn eu gweledigaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol sy'n dod i'r amlwg neu gynlluniau datblygu lleol diwygiedig.
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, 2021
Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yw Llwybr Newydd, sy'n nodi 'llwybr newydd' ar gyfer trafnidiaeth ledled y wlad dros yr 20 mlynedd nesaf. Ei phrif nod yw creu cymdeithas sy'n fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal i bawb. Yn ogystal â phennu blaenoriaethau ac uchelgeisiau tymor byr a hirdymor, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno naw cynllun bach sy'n esbonio sut y bydd y nodau'n cael eu cyflawni mewn gwahanol ddulliau a sectorau trafnidiaeth.
Deddf Cynllunio, 2015
Darparodd y Ddeddf Cynllunio, a gafodd ei chyflwyno yn 2015, fframwaith deddfwriaethol diwygiedig i ddiwygio'r system gynllunio. Mae'r Ddeddf yn cynnwys pum amcan allweddol, yn ogystal â darparu sail gyfreithiol ar gyfer cyflwyno Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (o'r enw Cymru'r Dyfodol ar gyfer y cyfnod 2020-2040) a Chynlluniau Datblygu Strategol ar gyfer tri rhanbarth yng Nghymru. Bydd y Cynlluniau Datblygu Strategol ar gyfer y deg awdurdod yn Ne Ddwyrain Cymru, y mae RhCT yn un ohonyn nhw, yn darparu glasbrint a strategaeth ar gyfer datblygu a buddsoddi ar draws y rhanbarth, er dydy'r gwaith ddim wedi dechrau ar y Cynllun Datblygu Strategol eto. Yn bwysig, mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i 'ddefnydd o'r iaith Gymraeg' fod yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn darparu fframwaith ar gyfer gwella lles Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried goblygiadau hirdymor eu penderfyniadau. Mae'r Ddeddf yn gosod datblygu cynaliadwy yn ganolog i wella llesiant diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Cymru. Mae'r Ddeddf yn nodi'r 'pum ffordd o weithio', yn ogystal â'r saith nod llesiant y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu cyflawni.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Cafodd Deddf yr Amgylchedd Gydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016 ac mae'n ceisio darparu deddfwriaeth i reoli cyfoeth naturiol Cymru mewn modd rhagweithiol a chynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd fioamrywiaeth er mwyn cynorthwyo i wrthdroi dirywiad a sicrhau cydnerthedd a dyfodol bioamrywiaeth yng Nghymru yn y tymor hir. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi'r dyletswyddau o osod targedau lleihau allyriadau a phennu cyllidebau carbon i Weinidogion Cymru.
Deddf Tai (Cymru), 2014
Ym mis Medi 2014, cafodd Deddf Tai (Cymru) Gydsyniad Brenhinol. Mae prif nodau'r ddeddfwriaeth yn cynnwys: Darparu rheoliadau digonol ar gyfer llywodraethu tai rhent preifat. Diwygio a gwella'r gyfraith mewn perthynas â digartrefedd, yn ogystal â gwneud darpariaethau ar gyfer safonau'r tai sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol. At hynny, fe ddarparodd y Ddeddf hefyd ddiffiniad o Sipsiwn a Theithwyr, mandadu asesiad o anghenion llety a'i gwneud yn ofynnol i ACLlau ddiwallu unrhyw angen a nodwyd. Fe gafodd y Ddeddf hefyd wared â chymhorthdal y cyfrif refeniw tai, yn ogystal â chaniatáu i gymdeithasau tai cydfuddiannol roi tenantiaethau sicr.
Deddf Teithio Llesol (Cymru), 2013
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn hyrwyddo llwybrau diogel ar gyfer cerdded a beicio, fel dewis amgen i gerbydau preifat. Mae'r Ddeddf yn chwarae ei rhan wrth ddylunio datblygiadau, drwy annog cysylltiadau â llwybrau presennol i hwyluso newidiadau hirdymor o ran ymddygiad a meddylfryd. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i nodi'r holl lwybrau teithio llesol ar fap rhwydwaith teithio Llesol a defnyddio hwn i gyflwyno gwelliannau parhaus yng nghwantwm ac ansawdd llwybrau, er mwyn gwella cysylltedd.
Cylchlythyr 005/2018 – Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn, 2018
Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr newydd o'r enw Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn, sy'n cymryd lle'r cyngor yng nghylchlythyron 30/2007, 78/91 a 76/94. Mae'r Cylchlythyr yn diweddaru'r diffiniad o 'Sipsiwn a Theithwyr' i gynnwys Siewmyn Teithiol, ochr yn ochr â Theithwyr Newydd lle mae modd iddyn nhw ddangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol. Mae'r cylchlythyr hefyd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sy'n nodi fframwaith i awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau'r 'egwyddor ddatblygu gynaliadwy'.
Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)
Nod y cynllun, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019, yw cynyddu effeithlonrwydd a lleihau allyriadau carbon nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% erbyn 2050. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diwallu gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a chreu cymunedau tecach, gwyrddach ac iachach. Mae'r cynllun yma'n hanfodol i wrthdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Rhanbarthol
Bargen Ddinesig (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd)
Cafodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd werth £1.2 biliwn, ei chadarnhau'n ffurfiol yn 2017. Ar 12 Chwefror 2018, fe wnaeth Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys yr arweinwyr o'r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gymeradwyo'r cynllun busnes strategol. Mae hwn yn manylu ar sut y byddai'r 'Gronfa Fuddsoddi Ehangach' gwerth £1.2 biliwn yn cael ei defnyddio hyd at 2023. Mae'r cynllun yn pennu amcanion strategol rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef: ffyniant a chyfle; cynhwysiant a chydraddoldeb; a hunaniaeth, diwylliant, cymuned a chynaliadwyedd. Mae'r Fargen Ddinesig hefyd yn cynnwys talu am Fetro De Cymru sydd werth £734 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £500 miliwn, ac mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi £125 miliwn tuag ato. Mae gwaith ar y prosiect yma wedi hen ddechrau ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru.
Cydbwyllgorau Corfforedig
Yn 2021, lluniodd Llywodraeth Cymru reoliadau a sefydlodd bedwar Cydbwyllgor Corfforedig a oedd yn cynnwys arweinwyr gweithrediaeth awdurdodau. Mae un o'r Cydbwyllgorau Corfforedig a gafodd ei sefydlu yn cynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer rhanbarth De-ddwyrain Cymru, ac mae hyn yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cydbwyllgorau Corfforedig yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Strategol, paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a hyrwyddo lles economaidd yr ardal.
Metro De-ddwyrain Cymru
Mae'r prosiect Metro wedi cyfrif am dros hanner cyllid y Fargen Ddinesig, ac mae'r prosiect ar y gweill ledled y rhanbarth ar hyn o bryd. Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am weithrediad gwasanaeth rheilffordd y Metro, ac mae'r ACLlau yn parhau i fod yn gyfrifol am ddarpariaeth bysiau a theithio llesol. Y prif amcan yw creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gynaliadwy ledled y rhanbarth sy'n wyrddach ac yn fwy effeithlon.
Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg, 2023-2028
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys cyrff cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i gymunedau lleol. Nod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd, trwy greu targedau i gyflawni amcanion y saith nod Llesiant. Nod y cynllun yw creu mynediad tecach i gyfleoedd ar gyfer pob cymuned, wrth hefyd gydnabod yr amrywiaeth o heriau y mae nifer yn eu hwynebu a sut mae hyn yn effeithio ar eu llesiant.
Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru – Datganiad Ardal Canol De Cymru,2020
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru saith datganiad ardal ledled Cymru, ond mae Rhondda Cynon Taf yn dod o dan Ddatganiad Ardal Canol De Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn 2020. O'r saith ardal, Canol De Cymru yw'r mwyaf poblog, gan gynnwys Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Merthyr Tudful. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys ymylon rhostir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal ag iseldiroedd Bro Morgannwg ac ucheldiroedd dramatig y cymoedd. O ganlyniad, mae'r Datganiad Ardal yn cynnwys yr amcan i 'bontio amgylcheddau trefol a naturiol'. Mae'r datganiad yn cynnwys pum thema allweddol, sef: adeiladu ecosystemau gwydn; cysylltu pobl â natur; gweithio gyda dŵr; gwella ein hiechyd; a gwella ansawdd ein haer.
Sail Tystiolaeth Leol
Cynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf 'Gwneud Gwahaniaeth', 2020-2024
Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn ymdrin â chyfnod 2020-2024 ac yn cynnwys y weledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, sef: "I Rondda Cynon Taf fod y lle gorau yng Nghymru i yw, gweithio a chwarae ynddo, lle mae pobl a busnesau yn annibynnol, yn iach ac yn llewyrchus. Diben y Cyngor yw darparu arweinyddiaeth gymunedol gref a chreu amgylchedd lle mae modd i bobl a busnesau ffynnu. I'r perwyl yma, mae gan y Cyngor dair prif flaenoriaeth, sydd wedi'u nodi yn y cynllun:
- Pobl: Sy'n annibynnol, iach a llwyddiannus.
- Lleoedd: Lle mae pobl yn falch o gael byw, gweithio a chwarae ynddyn nhw.
- Ffyniant: Creu'r cyfle i bobl a busnesau fod yn arloesol, yn entrepreneuraidd ac i gyflawni eu potensial a ffynnu.
Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd - Strategaeth Newid Hinsawdd Rhondda Cynon Taf, 2022 – 2025
Nod Strategaeth Newid Hinsawdd RhCT yw cyflawni ymrwymiadau'r Cyngor i leihau allyriadau carbon ar draws y Fwrdeistref Sirol a thrwy wneud hynny, mynd i'r afael yn effeithiol â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Strategaeth yn nodi, erbyn 2030:
- Bydd Rhondda Cynon Taf yn garbon niwtral;
- Bydd y Fwrdeistref Sirol gyfan mor agos â phosibl at fod yn garbon niwtral; a
- Bydd ein gwaith ar y cyd â phartneriaid wedi sicrhau y bydd pob sefydliad cyhoeddus a phreifat sy'n gweithredu yn y fwrdeistref sirol yn garbon niwtral erbyn 2040.
Bydd Rhondda Cynon Taf wedi cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gael sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.
Adroddiad Adolygu CDLl, 2019 (Hefyd yn gweithredu fel crynodeb o'r holl Adroddiadau Monitro Blynyddol)
Lluniodd y Cyngor Adroddiad Adolygu i lywio'r penderfyniad i ddechrau paratoi CDLl Diwygiedig. Mae Adroddiad Adolygu yn rhoi dadansoddiad beirniadol o'r dystiolaeth a gasglwyd ers mabwysiadu'r CDLl drwy'r broses fonitro. Mae'n ystyried ffactorau megis cyflenwi dyraniadau a datblygiadau eraill, ochr yn ochr â chyflawniad ac effeithiolrwydd polisi cynllunio. Prif ffynhonnell yr adolygiad yw Adroddiadau Monitro Blynyddol y Cyngor a chaiff eu hanfon at Lywodraeth Cymru yn flynyddol. Mae'r Adroddiadau Monitro Blynyddol yn monitro cyflawniad a gweithrediad y cynllun, yn ogystal ag ystyried unrhyw newidiadau cyd-destunol perthnasol mewn amgylchiadau economaidd byd-eang a pholisïau, canllawiau neu ddeddfwriaeth sydd newydd eu cyhoeddi.
Papur Asesu Hierarchaeth Aneddiadau, 2023
Mae'r Hierarchaeth Aneddiadau, fel y'i pennir gan yr Asesiad Aneddiadau, yn llywio Strategaeth Ofodol y CDLl Diwygiedig ac yn cael ei defnyddio i ganfod pa aneddiadau sydd fwyaf cynaliadwy ac sydd â'r gallu i gyflawni'r twf angenrheidiol dros gyfnod y cynllun. Mae'n ofynnol i ACLlau sicrhau bod penderfyniadau ar leoliad datblygiad yn ystyried materion megis: patrymau twf cynaliadwy; cynnal gwasanaethau a chyfleusterau; y berthynas rhwng aneddiadau; a symudiad pobl.
Papur Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu a Masnachol, 2023
Mae'n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol nodi Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu a Masnachol ar gyfer eu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Mae'r papur yma'n nodi'r berthynas rhwng yr Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu a Masnachol â'r Hierarchaeth Aneddiadau a'r Strategaeth CDLl. Yn nodweddiadol bydd gan aneddiadau lefel uwch ddalgylch mawr ac ystod o ddefnyddiau, tra bod aneddiadau lefel is yn cael eu dynodi i ddiwallu anghenion cyfleustra dyddiol y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Papur Gweledigaeth, Materion ac Amcanion, 2023
Cafodd y Papur Gweledigaeth, Materion ac Amcanion ei lunio yn 2023 ac mae'n amlinellu canfyddiadau allweddol cam cychwynnol y CDLl Diwygiedig ar gyfer RhCT. Mae'r papur yn nodi'r materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac ehangach sy'n bodoli ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn benodol, y materion hynny y mae modd i'r CDLl fynd i'r afael â nhw a'r rhai y dylai fynd i'r afael â nhw. Mae materion y CDLl Diwygiedig wedi'u crynhoi er mwyn llunio Gweledigaeth gryno ar gyfer y cynllun. Ystyrir bod y Materion a'r Weledigaeth yn llunio Amcanion diffiniedig ar gyfer y CDLl Diwygiedig, a hynny dros gyfnod y cynllun. O ganlyniad, mae'r deilliannau a nodwyd yn ffurfio sylfaen y CDLl Diwygiedig a gwaith paratoi'r camau dilynol.
Adroddiad Tystiolaeth Ddemograffig, 2023
Comisiynodd y Cyngor gwmni Edge Analytics i baratoi Adroddiad Tystiolaeth Ddemograffig yn 2022. Mae'r adroddiad yn defnyddio technoleg POPGROUP i baratoi amrywiaeth o Senarios Twf ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, gan ymgorffori amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â phoblogaeth ac aelwydydd, yn ogystal ag ystadegau demograffig ac economaidd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a StatsCymru. Mae'r dadansoddiad yn amlinellu'r newid mewn poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer pob senario twf, o 2022 i 2037, gan gynnwys anheddau newydd, mudo net cyfartalog a thwf cyflogaeth y flwyddyn.
Papur Cyflenwad Tai, 2023
Mae'r papur Cyflenwad Tai yn rhoi manylion ar nifer yr anheddau y mae disgwyl eu hadeiladu o'r banc tir tai presennol (safleoedd sydd â chaniatâd ar hyn o bryd neu sy'n cael eu hadeiladu) yn ystod cyfnod y cynllun. Yn ogystal, mae'n amcangyfrif nifer y safleoedd annisgwyl (bach a mawr), a allai godi erbyn 2037. Mae'r adroddiad yn cloi gan nodi graddfa'r dyraniadau sydd angen eu gwneud er mwyn ddiwallu'r ddarpariaeth tai a bennwyd yn y CDLl Diwygiedig.
Asesiad o'r Farchnad Dai Leol - Canfyddiadau Drafft 2024
Mae'r AFDL yn dadansoddi'r angen presennol sydd heb ei ddiwallu am dai fforddiadwy, yn unol â dulliau diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyfrifo. Mae'r asesiad yn pennu'r angen am dai fforddiadwy yn y dyfodol, ar draws yr ardaloedd y marchnad tai yn RCT, mewn cysylltiad â'r twf penodol yn y boblogaeth ac aelwydydd a gynigir gan y CDLl Diwygiedig.
Yr Astudiaeth Capasiti Trefol, 2022
Mae'r Cyngor wedi llunio Astudiaeth Capasiti Trefol i ganfod capasiti tir trefol presennol i ddarparu tai yn y dyfodol a datblygiadau eraill yn y Fwrdeistref Sirol. Roedd yr astudiaeth wrth ddesg yn ceisio nodi tir posibl ar gyfer y CDLl Diwygiedig, yn ogystal â rhoi cipolwg ar nifer y datblygiadau ar safleoedd annisgwyl sy'n debygol o ddigwydd dros gyfnod y cynllun (2022-2037). Er bod yr astudiaeth yn amcangyfrif y potensial ar gyfer darparu anheddau newydd, does dim modd iddi ragweld pa safleoedd fydd o bosibl yn cael eu darparu yn y dyfodol. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys y safleoedd hynny o fewn ffin ddiffiniedig yr anheddiad, gyda phob tir arall (e.e. mannau agored, parthau perygl llifogydd neu safleoedd â gwerth ecolegol) wedi'u heithrio.
Papur Opsiynau ar gyfer Twf, 2023
Mae'r Papur Opsiynau ar gyfer Twf yn nodi manylion ar yr opsiynau arfaethedig ar gyfer twf yn RhCT. Mae'n nodi manylion ar sut mae'r gwahanol sefyllfaoedd a gynigir yn cael eu dylanwadu gan gyfanswm y boblogaeth, demograffeg, gofynion a deiliadaeth anheddau - ac effaith bosibl y gwahanol sefyllfaoedd ar y rhain - yn ogystal â'r goblygiadau ar gyfer tir cyflogaeth a'r twf a ragwelir. Yn y papur, mae nifer o sefyllfaoedd wedi'u profi a'u dadansoddi i bennu'r lefel fwyaf priodol o dwf ar gyfer y CDLl Diwygiedig dros gyfnod y cynllun, sef 2022-2037.
Papur Opsiynau Strategaeth Ofodol, 2023
Mae Papur Opsiynau Strategaeth Ofodol wedi'i baratoi i nodi'r opsiynau strategaeth ofodol ar gyfer y CDLl Diwygiedig. Mae'n ceisio adlewyrchu'r polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol allweddol sy'n berthnasol i'r gwaith o lunio'r opsiynau ar gyfer strategaeth ofodol. Er mwyn llunio a mabwysiadu strategaeth ofodol addas, mae angen edrych ar nifer o ddulliau neu opsiynau amgen, lle mae modd cynnwys y lefelau twf angenrheidiol. Rhaid i'r opsiynau hyn fod yn realistig a cheisio mynd i'r afael ag amcanion y CDLl Diwygiedig. Yn y pen draw, dylai hyn fod yn ffactor arwyddocaol wrth benderfynu ar Strategaeth ehangach y CDLl Diwygiedig, gan sicrhau bod modd cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLl Diwygiedig.
Strategaeth Cartrefi Gwag, 2022-2025
Mae'r Strategaeth Cartrefi Gwag yn darparu fframwaith ar gyfer dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn RhCT. Teimlwyd bod angen llunio strategaeth bwrpasol ar gyfer RhCT, oherwydd y niferoedd uchel o gartrefi gwag ar draws y Fwrdeistref Sirol, lle mae pwysau parhaus i gyflenwi tai fforddiadwy. Serch hynny, nodir nad oes modd ystyried yr anheddau hyn yn yr un modd ag anheddau 'newydd', o ran cyfrannu at yr angen cyffredinol am dai, sydd wedi'i nodi yn y CDLl Diwygiedig.
Adolygiad Tir Cyflogaeth, 2023
Yn 2022, comisiynodd y Cyngor y Grŵp BE, ar y cyd â PER Consulting, i lunio Adolygiad Tir Cyflogaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Adolygiad Tir Cyflogaeth yn cynnwys sail tystiolaeth datblygu economaidd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a'r ardal 'fwy na lleol' (ar draws ffiniau ACLl), yn ogystal ag asesu cyd-destun y polisi. At hynny, mae'n cynnwys tair elfen yr Adolygiad Tir Cyflogaeth ei hun: yr asesiad o'r farchnad eiddo, yr archwiliad o safleoedd cyflogaeth presennol ac amcangyfrif o ofynion tir yn y dyfodol. O ran y gofyniad tir, mae canllawiau cyflogaeth 2015 yn nodi dwy fethodoleg ar gyfer pennu'r ffigur yma, a defnyddiwyd y ddau ohonynt yn Adolygiad Tir Cyflogaeth y Cyngor.
Strategaeth Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf
Mae Strategaeth Dwristiaeth RhCT yn pennu gweledigaeth ar gyfer RhCT fel y prif gyrchfan yn y DU ar gyfer ymweliadau a gwyliau yn seiliedig ar "brofiad", gan arddangos ein tirwedd, diwylliant a'n treftadaeth o'r radd flaenaf.
Er mwyn cyflawni hyn, mae'r strategaeth yn pennu nodau i sicrhau bod RhCT: ar flaen y gad ar gyfer twristiaeth antur; yn brif gyrchfan i'r rhai sy'n ceisio ffordd o fyw egnïol; ac yn gwneud y mwyaf o fuddion ei thirweddau rhagorol. Ymhellach, mae'r strategaeth yn ceisio defnyddio diwylliant a threftadaeth RhCT i'r eithaf, gan felly fod o fudd i drigolion a thwristiaid, yn ogystal â chreu profiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr. Bydd hyn yn cynnwys llety dros nos sydd nid yn unig yn le i aros ond yn brofiad ynddo'i hun.
Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd, 2022
Mae'r Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd, a gafodd ei lunio gan JBA Consulting ym mis Tachwedd 2022, yn ceisio darparu tystiolaeth gadarn i lywio datblygiad polisi a phenderfyniadau ar ddyraniadau defnydd tir. Mae'r astudiaeth wedi rhoi sylw dyledus i bolisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, yn ogystal â'r Nodyn Cyngor Technegol perthnasol, sef TAN 15 o'r enw Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae nodau'r astudiaeth yn cynnwys:
- Rhoi gwybod am gyfleoedd datblygu posibl, gan roi sylw dyledus i reoli perygl llifogydd;
- Nodi maint a difrifoldeb y perygl llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn sicrhau bod datblygiad yn cael ei lywio i ffwrdd o'r ardaloedd hynny; a
- Darparu dogfen gyfeirio mae modd dibynnu arni am gyngor ac arweiniad yn y lle cyntaf.
Strategaeth Leol Ddrafft ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Mae Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i lunio gan RCT, sy'n cynnwys strategaeth a chynllun gweithredu. Mae hwn yn nodi manylion ar yr amcanion, mesurau a chamau gweithredu sydd wedi'u datblygu i amlinellu, ar lefel uchel, sut mae RhCT yn bwriadu rheoli perygl llifogydd lleol. Mae hefyd yn nodi sut i fabwysiadu dull cyfannol o reoli perygl llifogydd. Dyma'r ail Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, sy'n disodli'r strategaeth gyntaf, a gafodd ei chyhoeddi yn 2013.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (Canfyddiadau Asesiad Cam 1), 2023
Yn unol â Rheoliadau'r CDLl, mae'n rhaid i'r Cyngor baratoi Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol, y dylid ei chyhoeddi ar y cam Strategaeth a Ffefrir. Mae hyn yn cynnwys yr holl safleoedd a gafodd eu derbyn yn ystod y broses Galw am Safleoedd Ymgeisiol a chanlyniadau eu hasesiadau cam cyntaf, yn unol â Methodoleg y Safleoedd Ymgeisiol.
Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, 2022
Ym mis Mai 2022, comisiynodd y Cyngor gwmni LUC i gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd gan ymgorffori Asesiad Amgylcheddol Strategol o'r CDLl Diwygiedig. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) yn argymell bod yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol hefyd yn ymgorffori asesiadau eraill, megis Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg. Dylai hefyd fynd i'r afael â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. O ganlyniad, caiff y broses ei gyfeirio ati fel Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig.
Pwrpas yr Adroddiad Cwmpasu a gafodd ei lunio gan LUC yw rhoi'r cyd-destun cychwynnol ar gyfer cwmpas Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig y CDLl Diwygiedig. Yna bydd yna Adroddiadau Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig statudol ar gyfer pob un o gamau swyddogol ac elfennau eraill y CDLl Diwygiedig.
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, 2022
Yn ogystal â'r Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, mae LUC hefyd yn cynnal gwaith ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar ran y Cyngor. Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn darparu asesiad o'r niwed posibl a'r effaith y byddai modd i'r cynllun arfaethedig ei chael ar safleoedd gwarchodedig arbennig. Mae gan RCT nifer o safleoedd yr ystyrir eu bod o bwysigrwydd arbennig o ran cadwraeth neu fywyd gwyllt, a chaiff y rhain eu gwarchod gan gyfraith ryngwladol. Wrth lunio'r CDLl Diwygiedig, rhaid i'r Cyngor fod yn effro iawn i unrhyw gynigion datblygu, o fewn cyffiniau safleoedd o'r fath, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod rhag niwed.
Adroddiad Hyfywedd
Yn 2022, comisiynodd RhCT gwmni Avison Young i gynnal asesiad hyfywedd o ddatblygiadau preswyl ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn cynorthwyo'r Cyngor i asesu'r hyfywedd cyffredinol ledled RhCT, yn ogystal â'r rhwystrau i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol addas yn llwyddiannus. Bydd hefyd yn rhoi syniad o ble sy'n realistig i ragweld darpariaeth o dai fforddiadwy. Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar ofynion polisi y CDLl presennol.
Asesiad Ddrafft o Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr 2022
Roedd yr Asesiad Ddrafft o Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, a gafodd ei llunio ym mis Chwefror 2022 gan gwmni Opinion Research Services, yn asesu'r angen am lety i Sipsiwn a Theithwyr yn RhCT yn y dyfodol. Y prif amcan yw darparu asesiad cadarn o anghenion presennol ac yn y dyfodol am lety yn y tymor byr a thros oes y CDLl Diwygiedig (2022-2037). Mae'r anghenion llety wedi'u crynhoi drwy gyfuniad o ymchwil wrth ddesg, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgysylltu ag aelodau o'r Cymunedau Teithiol. Daw'r astudiaeth i'r casgliad y bydd angen i RCT ddiwallu anghenion y boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr presennol a'r boblogaeth a ragwelir drwy'r CDLl Diwygiedig.
Crynodeb o'r Papur Ddrafft ar gyfer Opsiynau Strategaeth Ofodol ac Ystyriaeth ar gyfer Modelu Trafnidiaeth, 2023
Mae'r papur yma'n ganlyniad i waith modelu a gafodd ei gynnal i bennu'r teithiau ychwanegol a grëwyd o'u hystyried yn erbyn opsiynau amrywiol ar gyfer twf gofodol yn RhCT. Mae hyn hefyd yn dangos lle byddai'r teithio ychwanegol hyn yn digwydd.
Strategaethau Canol Trefi
Strategaeth Canol Tref y Porth, 2018/2019:
Mae'r strategaeth yn ceisio galluogi tref fywiog a deniadol, gyda chynnig da, sy'n cydnabod canol y dref fel calon ein cymunedau. Er mwyn cyflawni hyn ac i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a wynebir yn gyffredinol gan ganolfannau masnachol a manwerthu, mae'r strategaeth yn nodi dull integredig a chyfannol o adfywio. Mae'r ymagwedd yma'n nodi'r rôl nodedig y mae tref Porth yn ei chwarae a'i leoliad pwysig ar gyfer gwasanaethau, trafnidiaeth, cyflogaeth a darpariaeth tai. Er mwyn cyflawni'r strategaeth, nod y Cyngor yw harneisio unrhyw gyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno o ffrydiau ariannu, megis Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Strategaeth Canol Tref 2023/24 ar gyfer Aberdâr:
Mae'r strategaeth yn cydnabod, yn sgil pandemig byd-eang COVID-19, fod Aberdâr yn wynebu heriau sylweddol, er ei bod yn parhau i fod wrth galon ei chymunedau cyfagos. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo, drwy'r strategaeth a'i Gynllun Corfforaethol (Gwneud Gwahaniaeth, 2020-2024), i greu lleoedd bywiog, ffyniannus y mae pobl yn dymuno byw, gweithio a chymdeithasu ynddyn nhw. Bydd cyflawni nodau'r strategaeth yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth i harneisio'r egni cyfunol i roi'r ymyraethau angenrheidiol ar waith.
Mae'r strategaeth yn gosod fframwaith i arwain buddsoddiad, wrth hefyd ystyried ei rôl a'i swyddogaethau, i gefnogi cymunedau lleol trwy ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau, cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol, cyfleoedd cyflogaeth, tai a manwerthu, profiadau hamdden a diwylliannol. Mae'n ceisio manteisio ar y seilwaith strategol newydd o'i amgylch a'r Metro i ddarparu cyfleoedd ychwanegol ac annog buddsoddiad pellach.
Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd 2022:
Mae'r cynllun yn amlinellu'r bwriad i adfywio Pontypridd, gan adeiladu ar ddyheadau a rennir ar gyfer y dref a'i rôl o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'r cynllun yn nodi nifer o uchelgeisiau craidd a fydd yn arwain buddsoddiad yn y dyfodol yn y dref, ochr yn ochr ag ystyriaethau dylunio i sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyflawni'r uchelgeisiau hyn. Mae'r uchelgeisiau hyn yn creu gweledigaeth ar gyfer Pontypridd: gan gynnwys bod yn gyrchfan busnes, yn lle gwych i fyw, yn lle hygyrch sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da, yn cynnig mannau gwyrdd ar lan yr afon, a threflun unigryw, yn gyrchfan ddiwylliannol a chymdeithasol, yn ogystal â thref gynhwysol a chydnerth.
Bydd yr ystyriaethau dylunio sydd wedi'u rhoi ar waith i gyflawni'r amcanion hyn yn canolbwyntio ar ddatblygiad, cysylltedd, treflun, seilwaith gwyrdd a'r parth cyhoeddus, wrth hefyd adeiladu ar agweddau cymdeithasol a diwylliannol y dref. Ymhellach, mae pum ardal ofodol yn y dref, a fydd yn ganolbwynt i fuddsoddiad wedi'i dargedu, sef: Porth y De, Craidd Canol y Dref, Ardal y Farchnad, Porth y Gogledd a Pharc Coffa Ynysangharad.