Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022 - 2037, Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 17 Ebrill 2024

Adran 9 – Polisïau Strategol

SP 1 - Newid yn yr Hinsawdd a Lleihau Carbon

Mae'r Polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 4, 5, 9, 10, 11, 12 a 13.

Mae'n rhaid i gynigion datblygu ddangos ystyriaeth o'r hinsawdd, anelu at leihau allyriadau carbon a lle bo'n bosibl lliniaru yn erbyn achosion newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr holl ddyraniadau ar gyfer datblygu yn y CDLl Diwygiedig (CDLlD) yn cael eu lleoli mewn lleoliadau cynaliadwy. Mae hyn wedi'i benderfynu yn unol â'r Fethodoleg Safleoedd Ymgeisiol, sy'n cyd-fynd â pholisi cynllunio cenedlaethol. Mae lleoliadau cynaliadwy yn lleoedd a fyddai'n lleihau'r angen i deithio ac yn lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat. Byddai hyn felly yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn y dyfodol.

Disgwylir i bob cynnig datblygu newydd arall drwy gydol cyfnod y cynllun fod mewn lleoliadau cynaliadwy.

Dylai dyluniad datblygiadau newydd hefyd fod yn fwy ystyrlon o ran carbon. Dylai cynigion datblygu:

  • Hyrwyddo dulliau a deunyddiau adeiladu a fyddai'n ceisio cyflawni adeiladau carbon niwtral.
  • Ymgorffori ffynonellau ynni isel a thechnolegau adnewyddadwy.
  • Gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer gwefru cerbydau trydan.
  • Ceisio cofleidio'r economi gylchol, gan sicrhau effeithlonrwydd adnoddau, deunyddiau lleol a dulliau adeiladu cynaliadwy i osgoi gwastraff diangen.

Mae asedau naturiol yn chwarae rhan fawr wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd y CDLlD yn ceisio:

  • Diogelu seilwaith gwyrdd a'r rôl amlswyddogaethol mae modd iddo ei chwarae wrth leihau allyriadau carbon e.e. rheoli mawnogydd, diogelu cynefinoedd a phriddoedd lled-naturiol sy'n storio carbon, ffurfiau priodol o blannu, gwarchod coed ac aildyfiant naturiol coetir.
  • Gall rhywfaint o seilwaith gwyrdd hefyd gyfrannu at lesiant trefol, e.e. darparu oeri ar adegau o wres eithafol.
  • Diogelu tir amaethyddol o ansawdd uchel i gefnogi a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer ffermio a chynhyrchu bwyd lleol, i leihau allyriadau carbon a milltiroedd bwyd.
  • Defnyddio tir llwyd yn hytrach na thir glas, lle bo modd.

Ynni Adnewyddadwy

  • Cefnogir cynlluniau ynni adnewyddadwy priodol. Bydd hyn yn amodol ar ddadansoddiad manwl pellach o ardaloedd chwilio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC), a fyddai'n nodi lleoliadau priodol a chapasiti ar gyfer datblygiad yn RhCT yn y dyfodol; bydd hyn yn cael ei ddadansoddi'n fanylach yn y cam Adneuo.

Gwastraff

  • Byddwn ni'n parhau i leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu ac yn parhau i ailgylchu a darparu atebion ailgylchu arloesol.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i chwarae ei ran i fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau carbon. O'n rhan ni, mae cynnydd ar droed, ond mae angen i ni i gyd wneud rhagor – a gwneud hynny'n gyflymach - os ydyn ni am helpu i wrthdroi'r difrod i'n planed ac addasu i'r newidiadau sydd eisoes yn mynd rhagddynt, yn y Cyngor ac yn y fwrdeistref sirol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad argyfwng hinsawdd yn 2019. Mae'n hollbwysig bod y CDLlD yn lleihau allyriadau carbon sy'n cyfrannu at effeithiau dinistriol posibl y newid yn yr hinsawdd. Er mwyn gwneud hynny mae'r Cyngor wedi datblygu strategaeth newid yn yr hinsawdd Rhondda Cynon Taf Hinsawdd Ystyriol. Bydd y CDLlD yn cefnogi'r strategaeth yma i gyflawni ei huchelgeisiau.

Bydd y CDLlD yn sicrhau bod y dyraniadau a gynhwysir ynddo mewn lleoliadau cynaliadwy, sy'n lleihau'r angen i deithio ac felly'n lleihau allyriadau carbon. Mae hyn wedi ei fanylu yn eglur yn y Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol, yr aseswyd y safleoedd yn eu herbyn. Bydd disgwyl hefyd i bob datblygiad newydd arall drwy gydol cyfnod y cynllun leihau allyriadau carbon a bod mewn lleoliadau cynaliadwy, sy'n lleihau'r angen i deithio ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat.

Mae Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol yn mynnu bod egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf yn cael ei defnyddio wrth leoli datblygiad. Mae ein Ganolfannau Aneddiadau yn lleoliadau cynaliadwy iawn, sydd â mynediad da at wasanaethau a chyfleusterau a dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy. Dylid mabwysiadu dull dilyniannol wedi hynny ar gyfer lleoli datblygiadau.

Os na fydd modd lleoli datblygiad yn agos at ganol yr anheddiad yna bydd angen darparu gwasanaethau, cyfleusterau a seilwaith cymunedol a ffisegol digonol, ochr yn ochr â gwelliannau i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol.

Mae dyluniad adeiladau yr un mor bwysig â lleoliad a dyluniad safleoedd. Bydd y CDLlD yn ceisio sicrhau bod mwy o ddatblygiadau yn rhai carbon isel neu ddi-garbon, gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy sy'n cefnogi amcanion yr economi gylchol. Dylid dylunio adeiladau i'r safonau uchaf, gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy o ansawdd uchel a thechnolegau gwresogi ynni-effeithlon, a thrwy hynny leihau'r defnydd o ynni.

Mae mannau gwyrdd y Fwrdeistref Sirol, mannau agored, amrywiaeth naturiol gyfoethog o gynefinoedd a phriddoedd lled-naturiol, coed, a phriddoedd yn chwarae rhan hanfodol mewn lleihau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, er enghraifft trwy storio carbon, oeri naturiol a helpu i leihau llygredd. Felly, bydd y CDLlD yn ceisio gwarchod a gwella'r asedau naturiol pwysig yma.

Mae ein tir amaethyddol o ansawdd da yn rhoi'r cyfle i ni dyfu ein bwyd ein hunain, gan leihau milltiroedd bwyd. Bydd tir amaethyddol gwerth uchel yn cael ei warchod, yn unol â pholisi cenedlaethol.

Bydd y defnydd o dir llwyd yn hytrach na thir glas ar gyfer datblygiad yn cael ei gefnogi, fodd bynnag, cydnabyddir bod diffyg tir llwyd yn RhCT i gyflawni pob datblygiad newydd.

Bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy priodol yn cael eu cefnogi a bydd polisïau manylach yn cael eu paratoi yn ystod y cam Adneuo. Bydd y CDLlD yn ymdrechu i leihau'r gwastraff a gynhyrchir ymhellach ac i gefnogi'r gwaith rhagorol parhaus mewn ailgylchu ac arloesi yn y maes yma. Bydd gwastraff yn destun polisïau manwl yn ystod y cam adneuo.

SP 2 Creu Lleoedd a Chymunedau Cynaliadwy

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 10, 11, 12, a 13.

Bydd disgwyl i ddatblygiadau newydd gyfrannu at weledigaeth o ddyfodol RhCT, sef ar gyfer cymunedau sydd yn gynhwysol, yn gydlynol, yn ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

Dylai datblygiad gynnwys cynigion ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau, lle bo'n bosibl, sy'n sicrhau creu lleoedd cynaliadwy. Mae hyn ar gyfer y safle ei hun ac ar gyfer y gymuned y mae i ddod yn rhan ohoni. Mae modd i ddatblygiadau newydd ddod â buddion i'r gymuned bresennol, o ran mwy o dai, cyflogaeth, safleoedd manwerthu, teithio, hamdden neu'r defnydd o fannau agored ac ati.

Wrth wneud hynny, disgwylir i bob datblygiad gael ei ddylunio i safon uchel sy'n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a lles y gymuned fel y nodir yn egwyddorion polisi cynllunio Llywodraeth Cymru a'r cysyniad o 'greu lleoedd'.

I gyflawni hyn, dylai datblygiad:

Dyluniad

  • Bod yn hygyrch, gyda chysylltiadau da, yn ddiogel ac yn caniatáu symudiad rhwydd o fewn y datblygiad ac i'r gymuned bresennol ehangach i bob defnyddiwr.
  • Bod yn ymatebol i newid yn yr hinsawdd ac yn hyblyg.
  • Ymateb i'r cyd-destun a chymeriad lleol, gan barchu a gwella'r amgylcheddau naturiol, hanesyddol, diwylliannol ac adeiledig unigryw yn RhCT.
  • Dylunio ar gyfer gwarchod, lliniaru a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth a choed yn effiethiol.
  • Bod yn briodol o ran graddfa, dwysedd a chynllun.
  • O ran tai, dylen nhw ddarparu cymysgedd priodol ac amrywiol o fathau a meintiau o dai, sy'n darparu ar gyfer anghenion pawb, ac sy'n gallu addasu i anghenion cyfnewidiol dros amser.

Llesiant Cymunedau

  • Cyfrannu at iechyd a lles cymunedau, gan gynnwys diogelu amwynderau, tir y cyhoedd, darparu mannau agored, mannau hamdden a thirlunio.
  • Ymgorffori seilwaith gwyrdd newydd a chysylltiedig, gan hyrwyddo bioamrywiaeth.

Seilwaith Digonol

  • Sicrhau bod capasiti ac argaeledd seilwaith i wasanaethu datblygiadau newydd a'u cymunedau. Lle dydy hyn ddim yn wir, bydd angen i ddatblygiad gyfrannu at wella seilwaith o'r fath a/neu ddarparu seilwaith newydd.

Adnoddau

  • Ymgorffori, lle bo modd, effeithlonrwydd ynni ar y safle a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
  • Rheoli dŵr a gwastraff yn gynaliadwy.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) wedi ymrwymo i greu cymunedau a lleoedd cynaliadwy, sy'n cynnig safon byw uchel. Mae'r cynllun yn cofleidio'r cysyniad o greu lleoedd, fel y nodir mewn polisi cenedlaethol, sy'n ceisio creu datblygiad o ansawdd uchel, hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a lles pobl.

Bydd y CDLlD hefyd yn cefnogi gweledigaeth y Cynllun Llesiant, sy'n ceisio creu Cwm Taf Morgannwg mwy cyfartal. Ei nod yw creu cymdogaethau lleol iach, yn ogystal â chymdogaethau cynaliadwy a gwydn. Mae'r polisi yma'n cefnogi cyflawni datblygiadau, sy'n gallu cyfrannu at y nodau yma.

Mae creu safleoedd datblygu o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio'n dda ac sy'n creu cymunedau deniadol, cynhwysol a hygyrch i fyw, gweithio a chymdeithasu ynddyn nhw'n flaenoriaeth i'r CDLlD. Dylai datblygiad ganiatáu i bobl deimlo'n ddiogel, byw mewn cymunedau cydlynol a helpu i leihau'r anghydraddoldebau mae rhai pobl yn eu dioddef.

Rhaid i gynigion ystyried perthynas, swyddogaeth a chyd-destun y safle o fewn ei amgylchoedd ehangach. Bydd hyn yn cynnwys creu cysylltiadau rhwng datblygiad sefydledig a newydd, gan gryfhau cysylltiadau rhwng pobl a lleoedd.

Dylid parchu a gwella diwylliant cryf, treftadaeth a chymeriad traddodiadol Rhondda Cynon Taf a'i hasedau drwy'r broses ddylunio.

Dylai datblygiadau hybu lles ac iechyd corfforol a meddyliol da, trwy gynnwys nodweddion fel mannau gwyrdd ac agored, mannau chwarae, mynediad at fyd natur, llwybrau teithio llesol a mannau eraill i annog cydlyniant cymunedol. Lle bo modd, dylid cysylltu'r nodweddion yma â'r rhai sy'n bodoli yn y rhwydwaith cymunedol ehangach.

SP 3 - Rheoli Perygl Llifogydd

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 3, 4, 9 a 10.

Bydd y CDLlD yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu lleoli mewn mannau, na fyddai'n eu rhoi mewn perygl annerbyniol o lifogydd, tra'n sicrhau bod pob datblygiad yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn briodol.

Bydd yn sicrhau na fydd unrhyw ddatblygiad newydd yn cynyddu perygl llifogydd lleol o fewn ac o amgylch y safle sy'n cael ei ddatblygu, nac yn unrhyw un o'n cymunedau presennol.

Bydd y CDLlD yn nodi rhagor o gyfleoedd i leihau maint ac effaith bosibl llifogydd, megis:

  • Dulliau gwrthsefyll llifogydd o adeiladu adeiladau newydd a datblygiad cyffredinol safleoedd.
  • Gwella a darparu asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas pellach ar gyfer eu rolau aml-swyddogaethol, gan gynnwys lleihau perygl llifogydd trwy ddulliau megis gwanhau.
  • Drwy reoli ein hasedau naturiol mewn ffordd fwy effeithiol, mae modd i hynny ddod â nifer o fanteision megis rheoli glaw trwm. Byddai hyn yn cynnwys gwella cyflwr ein corsydd mawn, gorlifdiroedd a gwlyptiroedd, diogelu priddoedd a lleihau selio pridd, diogelu coed a chynyddu ardaloedd adfywio a chreu coetir yn RhCT a manteision eraill.

Mae glawiad mwy aml a dwys ynghyd â thopograffeg RhCT yn cynyddu'r perygl o fflachlifoedd yn RhCT. Mae glaw amlach hefyd yn gadael y ddaear yn orlawn, sy'n cynyddu'r risg ymhellach. Mae'r dyffrynnoedd ag ochrau serth yn achosi dŵr ffo cyflym i'r ardaloedd trefol yn y rhannau isaf, trwy gyrsiau dŵr cyffredin ac i'r prif afonydd.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi ystod o ystyriaethau polisi cynhwysfawr ar gyfer cynigion datblygu a pherygl llifogydd. Mae Nodyn Cyngor Technegol 15 yn nodi rhagor o ganllawiau ar gyfer cynigion datblygu sy'n gysylltiedig â llifogydd o bob ffynhonnell.

Mae'r prif afonydd yn RhCT yn cynnwys Afon Taf, Afon Rhondda, Afon Cynon ac Afon Elái, sydd i gyd yn dueddol o orlifo yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae llifogydd mewn prif afonydd yn aml yn cael eu hachosi gan lefelau afonydd yn 'gorlifo' o'u 'glannau' a/neu'n 'torri' strwythurau amddiffyn. Mae'r risg yma'n uchel yn RhCT. Mae hyn yn bennaf oherwydd maint trefol y cymunedau sydd wedi'u lleoli ar orlifdiroedd yr afon ac o'u cwmpas.

Diffinnir perygl llifogydd lleol fel y perygl o gyrsiau dŵr cyffredin (neu nentydd ac afonydd llai), dŵr wyneb a ffynonellau dŵr daear. Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd lleol; sef Cyngor RhCT. Llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin yw'r ffynhonnell fwyaf cyffredin o lifogydd yn RhCT.

Mae'r polisi perygl llifogydd strategol yma'n cyd-fynd â Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd RhCT a'r Cynllun Gweithredu, yr Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd, y Safonau Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) ar gyfer rheoli draenio dŵr wyneb (gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Gorff Cymeradwyo SDCau ar gyfer datblygiadau newydd yma).

Bwriedir llunio polisi cynhwysfawr yng Ngham Adneuo dilynol y CDLlD. Bydd hyn yn cynnwys polisïau Rheoli Datblygu priodol ar gyfer cynigion o fewn y parthau perygl llifogydd lleol a nodwyd (Llywodraeth Cymru). Bydd polisi arall hefyd i geisio lleihau'r holl berygl llifogydd lleol a phrif afonnydd yn RhCT, er mwyn ehangu ar rai o'r cysyniadau a godwyd ym mholisïau'r Strategaeth a Ffefrir.

SP 4 - Bioamrywiaeth a'r Amgylchedd Naturiol

Mae'r Polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 4, 9 a 10

Mae RhCT yn ardal o dirweddau bioamrywiol ac amrywiol, sy'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Bydd y CDLlD yn ceisio cynnal a gwella'r rhinweddau a'r nodweddion yma a gadael yr amgylchedd naturiol mewn cyflwr mwy bioamrywiol a gwydn.

Mae ein tirwedd bioamrywiaeth yn cael ei gwarchod gan ddynodiadau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN). Fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, CNC sy'n gyfrifol am ddynodiadau ACA a SoDdGA. Mae Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) yn ddynodiad Awdurdod Cynllunio Lleol.

Datblygiadau a SoBCN:

  • Dylid osgoi datblygu ar safleoedd SoBCN dynodedig.
  • Bwriad RhCT yw darparu amddiffyniad cryf i'r elfennau hynny o fioamrywiaeth yn ein SoBCN does dim modd eu hadnewyddu.
  • Mae rhai SoBCN yn cynnal cynefinoedd a allai fod â rhywfaint o gapasiti ar gyfer lliniaru, gwneud iawn a gwella. Bydd disgwyl i gynigion ar y safleoedd yma ddangos tystiolaeth bod mesurau lliniaru, digolledu a gwella derbyniol yn bosibl, tra'n gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau y'u dynodwyd ar eu cyfer.

Pob Datblygiad:

  • Rhaid i bob datblygiad yn y dyfodol ddangos tystiolaeth o liniaru a gwella bioamrywiaeth yn effeithiol.
  • O ran SoBCN, bydd gofyniad i liniaru effeithiol ar y safle. Dim ond mewn achosion lle bydd darparu bioamrywiaeth yn amlwg yn fwy effeithiol, a lle dydy cysylltedd, ardal a swyddogaeth bioamrywiaeth leol ddim yn cael eu peryglu, yr ystyrir darpariaeth oddi ar y safle.
  • Lle mae'n amlwg bod dim modd cyflawni mesurau lliniaru neu wella ar y safle, ond lle mae modd darparu'n effeithiol ar gyfer lliniaru a gwella effeithiau cynefinoedd neu rywogaethau a achosir gan ddatblygiad, gellir ystyried darpariaeth oddi ar y safle.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Argyfwng Natur ac yn ceisio ymgorffori ystyriaethau bioamrywiaeth pellach yn y broses gynllunio; gyda diwygiadau i Bolisi Cynllunio Cymru (a ddisgwylir) yn hydref 2023. Mae hyn hefyd yn adeiladu ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyfer cyrff cyhoeddus a sefydlwyd yn Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).

Oherwydd cyd-destun bioamrywiaeth sylfaenol uchel RhCT, bydd gweithredu amcanion amrywiol y CDLlD, gan gynnwys dyheadau datblygu ac ecolegol, yn heriol. Nod y polisi bioamrywiaeth strategol yma yw mynd i'r afael â pholisi Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun Rhondda Cynon Taf.

Mae'r system SoBCN yn darparu'r fframwaith ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn RhCT ac yn nodi'r cynefinoedd a'r rhywogaethau o bryder cadwraethol, y mae angen eu gwarchod. Mae meysydd eraill o bwysigrwydd ecolegol yn RhCT yn cynnwys Gwarchodfeydd Natur Lleol, Gwarchodfeydd Natur yr Ymddiriedolaeth Natur, safleoedd Tirwedd Fyw a Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol (RIGS).

Bydd polisïau rheoli datblygu manwl pellach yn cael eu paratoi ar gyfer y Cynllun Adnau a bydd y canllawiau cynllunio atodol presennol yn cael eu hadolygu.

SP 5 - Isadeiledd Gwyrdd a Mannau Agored

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 3, 4, 8, 9, 10, 12 a 18.

Mae pob Seilwaith Gwyrdd yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddarparu cynefinoedd priodol ar gyfer bioamrywiaeth yn RhCT. Felly mae gwarchod, rheoli a gwella lleoedd o'r fath yn RhCT yn gyfrifoldeb allweddol i'r CDLlD.

At hynny, mae nifer o'r amcanion a'r polisïau strategol yn y Strategaeth a Ffefrir yn cyfeirio at fanteision ehangach mannau agored naturiol a mwy ffurfiol, gan gynnwys:

  • Darparu cynefinoedd naturiol ar gyfer amrywiaeth o fioamrywiaeth
  • Iechyd a lles corfforol a meddyliol
  • Teithio Llesol
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Gwanhau Perygl Llifogydd
  • Storio Carbon
  • Amgylcheddau sy'n Oeri.

Mae dyletswydd yn y CDLlD i sicrhau ein bod ni'n nodi ac yn deall ein Seilwaith Gwyrdd yn y Fwrdeistref Sirol yn llawn. Yn unol â hynny, bydd Cam Adneuo'r CDLlD yn cynnal asesiad Seilwaith Gwyrdd cynhwysfawr, gan gynnwys asesiadau ychwanegol o Fannau Agored a Mannau Chwarae.

Bydd yr asesiadau yma'n cael eu defnyddio ymhellach i baratoi ystod o bolisïau a fyddai'n ceisio:

  • Gwarchod Isadeiledd Gwyrdd a mannau agored cyhoeddus eraill yn briodol,
  • Cynyddu nifer y mannau gwyrdd a chyfanswm eu harwynebedd,
  • Gwella ansawdd mannau gwyrdd trwy weithredu cynlluniau rheoli sydd wedi'u cynllunio'n dda, ac
  • Ystyried defnyddiau ychwanegol posibl ar eu cyfer megis lliniaru llifogydd a storio carbon.

Ardaloedd Tirwedd Arbennig

Penderfynwyd y bydd yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) a nodwyd yn gynhwysfawr yn y CDLl presennol yn parhau yn eu lle yn y CDLlD. Mae monitro blynyddol y CDLl wedi nodi bod dim newid wedi digwydd o fewn y tirweddau yma sydd wedi arwain at golli eu nodweddion o ansawdd uchel maen nhw wedi eu dynodi ar eu cyfer. Bydd Cam Adneuo'r CDLlD yn adolygu'r polisïau ATA presennol i sicrhau y bydden nhw'n parhau i warchod a gwella ansawdd a chymeriad y tirweddau yma'n briodol..

Lletemau Glas

Bwriedir cynnal adolygiad o Letemau Glas ar gyfer Cam Adneuo'r CDLlD, gan ddefnyddio methodoleg newydd, fel y'i paratowyd ar gyfer Rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

SP 6 - Tai

Mae'r Polisi yma'n cefnogi Amcanion 1, 2, 3, 5, 7 a 12.

Mae angen am 8,450 o dai newydd wedi'i nodi i fodloni Gweledigaeth ac Amcanion strategol y CDLl Diwygiedig. Mae Llawlyfr y CDLl yn nodi bod angen ychwanegu lleiafswm pellach o lwfans hyblygrwydd o 10% at y ffigur, er mwyn yswirio yn erbyn unrhyw faterion nas rhagwelwyd a diffyg cyflenwi safleoedd neu niferoedd cyffredinol. Felly cyfanswm y Ddarpariaeth Tai ar gyfer cyfnod cynllun y CDLlD o 2022-2037 yw 9,295 o anheddau.

Bydd y lefel gadarnhaol yma o ddarpariaeth tai yn cael ei chyflawni drwy dri dull cyffredinol:

  • Dyrannu tir cyflawnadwy mewn lleoliadau priodol sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth a Ffefrir. Bydd y dyraniadau yma'n cael eu pennu'n llawn yn y Cyfnod Adneuo, er bod Safleoedd Allweddol Posibl wedi'u nodi a allai gyfrannu niferoedd sylweddol.
  • Mae datblygiad parhaus y safleoedd ymrwymedig yn y Banc Tir Tai a nodwyd (fel y nodir yn y Papur Cyflenwi Tai).
  • Cefnogi datblygiad hap-safleoedd ar gyfer datblygiad preswyl ar safleoedd priodol, o fewn ffiniau aneddiadau lle y'u sefydlwyd, yn unol â'r Strategaeth a Ffefrir a'r Hierarchaeth Aneddleoedd.

Mae'r tabl isod, yn dod o'r Papur Cyflenwi Tai,yn nodi'n fanwl sut mae'r ddarpariaeth gyffredinol yma wedi'i hamlinellu.

Darpariaeth Tai CDLlD Rhondda Cynon Taf 2022-2037

Darpariaeth Tai

1

Y Gofynion o Ran Tai

8,450

2

Lwfans Hyblygrwydd o 10%

845

3

Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai 2022-2037

9,295

Banc tir

Cyflenwad

4

Banc tir safleoedd bach

621

5

Banc tir safleoedd mawr

3,502

6

Lwfans peidio â chyflawni (gostyngiad o 20%)

-825

7

Is-gyfanswm cyfredol 'Banc Tir'

3,298

Lwfansau safleoedd annisgwyl

8

Safleoedd annisgwyl bach

1,032

9

Safleoedd annisgwyl mawr

1,596

10

Is-gyfanswm lwfansau safleoedd annisgwyl

2,628

Dyraniadau Angenrheidiol

11

Angen annedd o ddyraniadau er mwyn cwrdd â'r ddarpariaeth tai, h.y. Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai, heblaw'r cyflenwad banc tir a lwfansau safleoedd annisgwyl.

3,369

Penderfynwyd ar yr angen am dai trwy ystyried nifer o ardaloedd o'r sylfaen dystiolaeth. Nodir y canlyniad yma yn adran Dewisiadau Twf y Strategaeth a Ffefrir.

Bydd graddfa dosbarthiad gofodol dyraniadau tai newydd yn cyd-fynd â'r Strategaeth a Ffefrir, gyda mwy o dai i'w dyrannu yn y De nag yn y Gogledd. Mae asesiad cychwynnol o'r Safleoedd Posib wedi dangos bod digon o safleoedd i ddarparu ar gyfer lefel yr angen ychwanegol. Yn gyffredinol, mae'r dosbarthiad yma'n cyd-fynd â'r hyn a gwblhawyd yn y gorffennol dros gyfnod y cynllun CDLl presennol, sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y safleoedd banc tir presennol.

Gwyddys bod 1,561 o anheddau ar safleoedd banc tir ymrwymedig gyda disgwyliad teg i'w cyflwyno yn yr Ardal Strategaeth Ogleddol yn hanner cyntaf cyfnod cynllun y CDLlD; gyda 2,562 yn yr Ardal Strategaeth Ddeheuol. Mae safleoedd banc tir naill ai eisoes wedi cychwyn neu wedi sicrhau caniatâd cynllunio a thybir eu bod nhw ar gael mewn gwirionedd i'w datblygu.

Yn ôl eu natur, dyw'r safleoedd annisgwyl ddim wedi'u nodi'n llawn eto. Serch hynny, mae dadansoddiad o dueddiadau'r gorffennol yn y Papur Cyflenwi Tai, (gan gynnwys anwybyddu tueddiadau annormal), ynghyd â chwiliad rhagweithiol am safleoedd posibl trwy Astudiaeth Capasiti Trefol ffurfiol, wedi nodi cyfraniad tebygol rhesymol. Byddai cynigion datblygu annisgwyl yn y dyfodol yn cael eu ffafrio ar dir a ddatblygwyd o'r blaen a'u darparu ar sail 'Canol Trefi yn Gyntaf', lle bo modd. Anogir cynigion ar gyfer trosi strwythurau addas yn ddatblygiadau preswyl mewn lleoliadau priodol hefyd.

Mae polisïau strategol eraill y dylid eu darllen ochr yn ochr â hyn mewn perthynas â datblygiadau preswyl yn y dyfodol, yn cynnwys yn gyntaf y Polisi Canolfannau Aneddiadau, sy'n nodi ystyriaethau ar gyfer datblygiadau preswyl mewn Ganolfannau Aneddiadau. Mae'r Polisi Creu Lleoedd a Chymunedau Cynaliadwy, ochr yn ochr â'r Polisi Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon wedyn yn nodi meini prawf polisi o'r safbwyntiau yma.

Bydd polisi rheoli datblygu manwl pellach i arwain datblygiad preswyl yn y dyfodol yn cael ei gynnwys yng Ngham Adneuo'r CDLlD. Bydd hefyd yn nodi ystyriaethau pellach ar gyfer caniatáu safleoedd eithriedig a safleoedd eraill ar gyfer tai fforddiadwy.

Mae angen darparu amrywiaeth yn y farchnad dai a sicrhau amrywiaeth o fathau a meintiau o dai i ddarparu ar gyfer anghenion holl aelodau ein cymunedau yn RhCT. Dylai lefel y ddarpariaeth a nodwyd helpu i gynyddu nifer y tai o ansawdd da sy'n fforddiadwy ar draws y marchnadoedd cymdeithasol a phreifat. Er ei bod hi'n anochel y bydd graddfa'r tai a ddarperir yn fwy yn y de nag yn y gogledd, mae'n parhau i fod y bydd niferoedd sylweddol o dai newydd yn cael eu hadeiladu ym mhob rhan o RCT i ganiatáu ar gyfer anghenion tai a chyfleoedd i bawb.

Ystyrir ymhellach y cynigir darpariaeth addas o dai newydd yn yr ardaloedd hynny yn RhCT sydd â'r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

Tai fforddiadwy

Canfu Asesiad Marchnad Dai Leol Canfyddiadau Drafft 2024 fod angen 5,672 o dai fforddiadwy/sydd ddim ar y farchnad agored yn RhCT dros gyfnod cynllun 2022-2037. Mae hyn yn cyfateb i 378 bob blwyddyn ar gyfartaledd neu 67.1% o gyfanswm y gofyniad tai o 8,450 o anheddau. Byddai hyn yn darparu ar gyfer yr anghenion presennol heb eu diwallu ac anghenion tai fforddiadwy yn y dyfodol. Serch hynny, byddai unrhyw golledion i'r stoc tai fforddiadwy presennol (megis dymchwel) yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen gan swm cyfatebol. I'r gwrthwyneb, bydd eiddo fforddiadwy gwag, sydd ar gael i'w defnyddio unwaith eto, yn lleihau'r angen.

Yn hanesyddol mae RhCT wedi darparu tua 25% o'r anheddau a gwblhawyd yn flynyddol fel rhai fforddiadwy ers mabwysiadu'r CDLl presennol. Yn seiliedig ar y gyfradd gyfartalog yma, byddai angen i RCT ddatblygu 1,512 o anheddau y flwyddyn er mwyn diwallu'r angen am 378 o anheddau fforddiadwy. Mae'r gyfradd yma'n afrealistig.

Pe bai'r duedd bresennol yn parhau dros gyfnod y cynllun, yna byddai disgwyl i oddeutu 140 o dai fforddiadwy gael eu darparu ar gyfartaledd bob blwyddyn dros gyfnod y cynllun, sef cyfanswm o tua 2,112. O ystyried cyfraddau adeiladu tai fforddiadwy yn y blynyddoedd mwy diweddar, a lefel uwch arfaethedig y cyflenwad tai cyffredinol, mae hwn yn ymddangos yn ffigwr cyraeddadwy iawn.

Mae dadansoddiad yn y Papur Cyflenwi Tai yn cefnogi hyn. Drwy ganiatadau tai fforddiadwy cyfredol y banc tir, safleoedd annisgwyl a dyraniadau arfaethedig, ystyrir ei bod hi'n ymarferol darparu hyd at 159 o anheddau fforddiadwy bob blwyddyn ar gyfartaledd. Ategir hyn ymhellach gan ddosbarthiad gofodol y ddarpariaeth tai yn y Strategaeth a Ffefrir, sy'n cyd-fynd yn gyffredinol â'r Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol meysydd a nodwyd a maint yr angen. Byddai'r 159 o anheddau'r flwyddyn yma eto'n cyfateb i tua 25% o'r ddarpariaeth dai gyffredinol.

Bydd dadansoddiad pellach o hyfywedd safleoedd tai yn ceisio sicrhau polisïau pendant a fydd yn nodi'r raddfa ofynnol o gyfraniadau gan ddatblygwyr at yr angen am dai fforddiadwy. Disgwylir i hyn amrywio a chyd-fynd â'r meysydd a nodir yn yr Adroddiad Hyfywedd lefel uchel, a baratowyd ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir. Bydd y polisïau yma'n cael eu nodi yng ngham Adneuo'r CDLlD, a fydd hefyd yn rhoi rhagor o fanylion am sut y ceisir y cyfraniadau yma.

Bydd cyflawni cynigion tai fforddiadwy ehangach yn llwyddiannus o ffynonellau eraill yn parhau dros gyfnod y cynllun, megis Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, buddsoddiad gan Gyngor RhCT ac ail-fuddsoddiad parhaus gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn y Fwrdeistref Sirol.

Tai Gwag

Mae gan RhCT fwriadau strategol i wella eiddo preswyl gwag er mwyn ei ail-ddefnyddio. Er bod y broses yma yn ei hanfod yn dod â thai newydd ar y farchnad, ni ellir eu hystyried fel tai newydd a fyddai'n cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth tai. Ar hyn o bryd mae 2,894 eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol. O'r rhain mae 2,120 ohonyn nhw wedi'u lleoli yn yr Ardal Strategaeth Ogleddol, tra bod y 774 sy'n weddill wedi'u lleoli yn yr Ardal Strategaeth Ddeheuol. Gyda chyfraddau cwblhau yn y gorffennol diweddar mor uchel â 273 yn 2021/22, ynghyd â'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd, disgwylir y bydd hyn yn parhau i fod yn ffynhonnell nifer o gartrefi newydd cychwynnol i deuluoedd; yn enwedig yn yr ardal strategol ogleddol.

Bydd taflwybr tai yn cael ei baratoi ar gyfer y cam Adneuo o baratoi'r cynllun, a fydd yn dangos y camau adeiladu a chyflawniad dyraniadau tai a safleoedd banc tir hysbys dros oes y cynllun. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer monitro tai yn effeithiol yn y CDLl Diwygiedig a sicrhau cyflenwad digonol o dai.

Anghenion Llety Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr

Mae'n ofynnol i'r Cyngor a'r CDLlD ddarparu ar gyfer anghenion llety'r Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn diweddaru'r diffiniad o 'Sipsi a Theithiwr' i gynnwys Siewmyn Teithiol, ochr yn ochr â Theithwyr Newydd lle maen nhw'n gallu dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol. Mae'r Ddeddf yn gorchymyn bod yn rhaid asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr; y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru; a bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar eu cyfer. Y mecanwaith ar gyfer asesu'r ddarpariaeth yw'r Asesiad o Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Asesodd Asesiad o Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr Cyngor RhCT, a gynhyrchwyd ym mis Chwefror 2022 gan Opinion Research Services, yr angen am lety Sipsiwn a Theithwyr ledled y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol. Prif amcan yr astudiaeth oedd darparu asesiad cadarn o anghenion presennol ac yn y dyfodol am lety yn y tymor byr a thros oes y CDLl Diwygiedig (2022-2037). Mae'r anghenion llety wedi'u crynhoi drwy gyfuniad o ymchwil desg ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys aelodau o'r Cymunedau Teithiol.

Mae Asesiad RhCT ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r asesiad yn nodi angen sydd heb ei ddiwallu; felly, bydd gofyniad i ddyrannu digon o leiniau i fynd i'r afael â hyn. Daw'r asesiad i'r casgliad y bydd angen 27 o leiniau dros gyfnod y cynllun, sy'n cyfrif am ffurfiant aelwydydd newydd a ragwelir, yn seiliedig ar ddemograffeg gyfredol. Ar ôl rhoi sylw dyledus i ganfyddiadau'r Asesiad o Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, bydd y Cyngor yn darparu'r fframwaith polisi angenrheidiol i ganiatáu ar gyfer diwallu anghenion y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn y cam Adneuo o baratoi cynllun y CDLlD.

SP 7 - Tir Cyflogaeth a'r Economi

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 3, 14, 15, 16 a 18.

Nod y CDLlD yw darparu ar gyfer economi gynaliadwy ledled RhCT a chwilio am gyfleoedd i gefnogi twf cyflogaeth. Bydd busnesau newydd a rhai sy'n ehangu yn RhCT, ynghyd â chyfleoedd mewnfuddsoddi yn parhau i gael eu cefnogi'n gryf, lle bo'n briodol yn RhCT.

Wrth gefnogi egwyddor polisi cenedlaethol Canol Trefi yn Gyntaf (ar gyfer y rhan fwyaf o gynigion datblygu), mae rhai mentrau diwydiannol a masnachol wedi'u lleoli i ffwrdd o'r canolfannau yma gan fod hyn yn fwy addas.

Bydd cynigion datblygu ar gyfer dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8 newydd yn cael eu cefnogi, lle ystyrir eu bod nhw fel arall yn dderbyniol ac yn briodol, ar:

  • Safleoedd Cyflogaeth a Ddyrannwyd.
  • Tir sydd ar gael ar safleoedd banc tir cyflogaeth presennol.
  • Ailddatblygu safleoedd banc tir cyflogaeth presennol a/neu unedau sydd wedi dadfeilio, sy'n wag neu ddim yn addas i'r diben mwyach. Mae modd i hyn gynnwys ailddatblygu safleoedd cyfan, i lawr hyd at isrannu unedau.

Ac eithrio'r uchod, dylid ceisio cyfleoedd ar gyfer cynigion ar gyfer swyddfeydd B1 mewn Ganolfannau Aneddiadau sydd wedi'u lleoli'n fwy priodol. Lle dydy hyn ddim yn bosibl, bydd angen dull chwilio dilyniannol ar gyfer safleoedd, yn unol ag egwyddor cenedlaethol Canol Trefi yn Gyntaf.

Dyraniadau Cyflogaeth a Thir o fewn Safleoedd Banc Tir Cyflogaeth Presennol

Nifer yr Hecterau

Dyraniad Cyflogaeth (o fewn y Safle Allweddol) ar safle hen Lofa'r Tŵr i'r De o Hirwaun (ASO)

15 Ha

Dyraniad Cyflogaeth ar Safle Allweddol Llanilid (ASDd)

10 Ha

Tir sydd ar gael o fewn Safleoedd Banc Tir Cyflogaeth Presennol yn yr ASO

19.8 Ha

Tir sydd ar gael o fewn Safleoedd Banc Tir Cyflogaeth Presennol yn yr ASDd

23.9 Ha

Cyfanswm Argaeledd Tir Cyflogaeth

68.7 Ha

Mae dyraniadau cyflogaeth a safleoedd banc tir i'w diogelu i sicrhau eu bod nhw ar gael at ddibenion cyflogaeth. Felly:

  • Mae defnyddiau ar wahân i rai dosbarth B wedi'u lleoli'n fwy priodol yn y Ganolfannau Aneddiadau a dylid cynnig eu lleoli yno. Lle dydy hyn ddim yn bosibl, bydd angen dull chwilio dilyniannol ar gyfer safleoedd, yn unol ag egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf.
  • Bydd modd cefnogi'r cynigion defnydd sydd ddim yn rai dosbarth B sy'n arddangos nodweddion defnyddiau B1, B2 a B8, ac mae modd eu cynnwys yn briodol ar safle cyflogaeth.
  • Mae modd cefnogi defnyddiau bach, atodol sy'n cefnogi swyddogaeth ehangach safle cyflogaeth.
  • Fydd unrhyw gynigion a fyddai'n cael effaith andwyol annerbyniol ar allu defnyddiau dosbarth B i weithredu ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, neu a fyddai'n amharu ar fywiogrwydd a hyfywedd y safle cyflogaeth yn y dyfodol, ddim yn cael eu cefnogi.

Rhaid i'r CDLlD gynnal lefel addas o dir cyflogaeth sydd ar gael i hwyluso busnesau newydd a chaniatáu ar gyfer ehangu busnesau presennol RhCT, ynghyd â mewnfuddsoddiad i'r Fwrdeistref Sirol. Comisiynodd Cyngor RhCT y BE Group i gynnal Adolygiad Tir Cyflogaeth i ganfod yr angen dros gyfnod y cynllun. Gan ddefnyddio'r ddwy fethodoleg a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru o 2015 Adeiladu Sail Tystiolaeth ar gyfer Datblygu Economaidd er mwyn Cefnogi Cynlluniau Datblygu Lleol, mae angen a argymhellir am 49 hectar o dir cyflogaeth o 2022-2037, gan gynnwys lwfans priodol ar gyfer byffer, fel y nodir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Arg. 3).

Fel y nodir uchod, mae'r Cyngor wedi nodi tua 68 hectar o dir cyflogaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys safle newydd a neilltuwyd ar Safle Allweddol Llanilid ac ailddyrannu safle Glofa'r Tŵr ar y Tir i'r De o Safle Allweddol Hirwaun. Mae yna hefyd nifer o safleoedd ym manc tir cyflogaeth presennol y Cyngor. Dylid nodi bod y tir cyflogaeth arfaethedig yn Llanilid yn ychwanegol at yr hyn a nodwyd yn yr Adolygiad Tir Cyflogaeth.

Bydd y safleoedd yma'n cael eu diogelu ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth drwy gydol cyfnod y CDLlD. Bydd hyn yn sicrhau cyflenwad parhaus o dir cyflogaeth, a fydd yn diwallu anghenion yr economi yn lleol ac yn darparu ar gyfer cyfleoedd mewnfuddsoddi posibl. Cydnabyddir bod cyfanswm y tir sydd ar gael yn fwy na'r angen cyffredinol a nodwyd. Serch hynny, fyddai pob un o'n safleoedd banc tir cyflogaeth presennol ddim o reidrwydd ar raddfa ddigonol, nac yn fasnachol ddeniadol ar gyfer cyfleoedd buddsoddi mwy. Bydd y dyraniadau Safle Allweddol yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad sylweddol yn gallu cael eu cynnwys mewn lleoliadau strategol rhagorol, gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn lleol, tra'n cael mynediad rhagorol i'r rhwydwaith rheilffyrdd a phriffyrdd strategol.

Mae'r tir cyflogaeth yma'n hanfodol i gwrdd â'r lefel twf a nodwyd ar gyfer y CDLlD, h.y. gwireddu'r gofyniad tai a'r cynnydd cysylltiedig disgwyliedig mewn swyddi dros gyfnod y cynllun. Mae'r polisi yma'n cyd-fynd â pholisi'r Ganolfannau Aneddiadau o ran hyrwyddo cyfleoedd i gael rhagor o gyflogaeth a chyflawni economi gynaliadwy ledled RhCT.

Serch hynny, cydnabyddir bod y cynnydd disgwyliedig mewn swyddi i ddod o ffynonellau heblaw'r safleoedd cyflogaeth yma'n unig. Bydd y lefel twf tai arfaethedig ar gyfer RhCT hefyd yn arwain at ragor o dwf mewn swyddi o ardaloedd eraill. Byddai hyn yn cynnwys gwasanaethau a sefydliadau cyhoeddus, pobl hunangyflogedig/cyflogedig sydd heb sylfaen benodol o bosibl (gweithio hyblyg) ac wrth gwrs y nifer cynyddol o bobl sy'n gweithio gartref. Nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

SP 8 - Canolfannau Aneddiadau

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 2, 3, 4, 5, 6, 11, 12, 14, 15, 16 a 18.

Y Canolfannau Aneddiadau yn RhCT

Mae canolfannau aneddiadau RhCT yn cael eu nodi mewn sawl ffordd, a thrwy gyfeiriadau ffurfiol ac anffurfiol. Byddai'r rhain yn cynnwys canol trefi, canolfannau manwerthu, strydoedd mawr, canol pentrefi, canolfannau lleol neu ganolfannau cymdogaeth, ac ati. Er eglurder, mae'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) bellach yn ystyried y rhain gyda'i gilydd fel ein 'Canolfannau Aneddiadau'.

Mae'r Canolfannau Aneddiadau wedi'u cysylltu'n naturiol â'r anheddiad ehangach y maen nhw wedi'u lleoli'n ganolog ynddo, ac felly mae'n rhan o Hierarchaeth Aneddiadau'r CDLlD. Mae'r Canolfannau Aneddiadau niferus ledled RhCT i gyd yn chwarae rhan fawr yn eu cymunedau unigol. Yn dibynnu ar eu maint a'u swyddogaeth, mae gan nifer fwy o rôl yn cefnogi rhannau ehangach o RCT. Mae gan eraill rôl a dylanwad cydnabyddedig yn rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru.

Isod mae'r Canolfannau Aneddiadau yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau. Nodir bod gan rai o'r Prif Aneddiadau a'r Aneddiadau Allweddol fwy nag un ganolfan, oherwydd eu maint cyffredinol. Mae canolfan gynradd amlwg yn y mannau yma, gyda rhai canolfannau eilaidd sy'n gwasanaethu rhai rhannau o'r anheddiad ehangach ar raddfa fwy lleol.

Hierarchaeth Aneddiadau - Canolfannau Aneddiadau

Prif Ganolfannau Aneddiadau

canolfan gynradd

canolfan eilaidd

Aberdâr

Aberaman

Y Gadlys

Trecynon

Pontypridd

Trefforest

Tonysguboriau

Pont-y-clun

Hen Dref Llantrisant

Canolfannau Aneddiadau Allweddol

canolfan gynradd

canolfan eilaidd

Glynrhedynog

Hirwaun

Llanharan

Aberpennar

Porth

Tonypandy

Pen-y-graig

Trewiliam

Tonyrefail

Treorci

Canolfannau Aneddiadau Llai

Abercynon

Ffynnon Taf

Pentre'r Eglwys

Ton Pentre

Gelli

Ton-teg (Canolfan Yr Heol Fawr a Chlos Aberteifi)

Llanhari

Trebanog

Llwydcoed

Treherbert

Maerdy

Tyn-y-Nant

Penrhiwceiber

Tynewydd

Pentre

Ynys-hir

Pen-y-waun

Ynys-y-bwl

Rhydfelen

Ystrad

Creu Lleoedd yn ein Canolfannau Aneddiadau

Mae angen cynnal llawer o swyddogaethau sefydledig ein Canolfannau Aneddiadau. Serch hynny, mae'r CDLlD yn cefnogi'n gryf eu datblygiad i ddod yn lleoedd hollgynhwysol, integredig a rhyng-gysylltiedig i bobl ymweld â nhw, eu mwynhau, a gweithio a byw ynddyn nhw. Byddai hyn yn unol ag egwyddorion cenedlaethol 'Canol Trefi yn Gyntaf'.

Mae'r CDLlD yn ceisio darparu hyblygrwydd addas i ganiatáu i'r canolfannau addasu a ffynnu, gan annog cynigion a fyddai'n gwella eu bywiogrwydd a'u hyfywedd. ​ Bydd ein canolfannau hefyd yn cael eu cefnogi i sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau i wasanaethu anghenion eu cymunedau a RhCT yn briodol. ​

Mae'r polisi yma felly'n cefnogi cynigion sydd:

  • Yn annog cymysgedd amrywiol a phriodol o ddefnyddiau, sy'n cefnogi'r economïau oriau dydd a gyda'r hwyr wrth gynyddu nifer yr ymwelwyr drwyddi draw;
  • Yn cefnogi pob defnydd priodol a fyddai'n dod â buddsoddiad a phobl i'r canolfannau. Byddai hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i), defnyddiau dosbarth 'A' traddodiadol, cynigion cymunedol, hamdden a lletygarwch a datblygiad sy'n cefnogi'r cynnig twristiaeth yn RhCT;
  • Yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau priodol, hygyrch a digonol i gymunedau presennol a chynyddol RhCT;
  • Yn darparu defnyddiau masnachol priodol a fyddai'n rhoi cyfleoedd cyflogaeth pellach;
  • Wedi'u dylunio'n dda ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at amgylchedd adeiledig a naturiol cyffredinol y ganolfan;
  • Yn creu cyfleoedd i ddefnyddio tir neu adeiladau gwag.

Bydd datblygiadau preswyl mewn Canolfannau Aneddiadau yn cael eu cefnogi mewn egwyddor lle:

  • Maen nhw'n darparu tai newydd priodol a fydd yn cynyddu bywiogrwydd canol trefi; a
  • Sicrheir amwynder preswyl priodol i ddeiliaid y dyfodol; a
  • Ni fydd yn effeithio ar weithgareddau manwerthu a masnachol parhaus yr eiddo cyfagos; ac
  • Mewn achosion o ailddatblygu neu drawsnewid eiddo, nid yw datblygiad preswyl yn cymryd lle defnyddiau masnachol cyffredinol presennol ar lefel stryd; a
  • Lle mae safle'r datblygiad yn rhydd o gyfyngiadau; a lle bo modd,
  • Lleolir defnyddiau manwerthu, gwasanaeth, hamdden neu fasnachol ehangach ar loriau gwaelod datblygiadau newydd yn y canolfannau. ​

Dylai pob math o gynigion datblygu yn y Canolfannau Aneddiadau fod o raddfa a defnydd priodol sy'n gymesur â'r hierarchaeth manwerthu.

Bydd ffin unigol yn cael ei chadarnhau ar gyfer pob Canolfan Aneddiadau yng Ngham Adneuo'r CDLlD.

Mae'r polisi yma'n ceisio sicrhau ffyniant ac addasrwydd ein Canolfannau Aneddiadau yn y dyfodol. Dylai'r egwyddorion ynddo helpu i gynnal eu hyfywedd a'u bywiogrwydd a pharhau i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau priodol ar lefel leol, sirol a rhanbarthol. ​Mae rhagor o fanylion am y broses o adnabod y canolfannau yma ym Mhapur y Canolfannau Aneddiadau. Nodwch, mae'r newidiadau o'r CDLl presennol yn cynnwys nodi canolfannau newydd yn Llanhari, Pen-y-waun, Llwydcoed a Chanolfan Yr Heol Fawr a Chlos Aberteifi, Ton-teg.

Bydd y Prif Aneddiadau a'r Aneddiadau Allweddol yn ganolbwyntiau ar gyfer twf ychwanegol a chyfleoedd ailddatblygu strategol. Bydd defnyddiau masnachol, hamdden a phreswyl (ac ati) priodol yn cael eu hannog yn y lleoliadau yma, ochr yn ochr â'u swyddogaethau traddodiadol i gynyddu'r nifer o ymweliadau a denu pobl o'u cymunedau, ledled RhCT a thu hwnt. Bydd y tair Prif Ganolfan Anheddiad yn parhau i gyflawni rôl isranbarthol, gan weithredu fel cyrchfannau siopa, canolfannau gwasanaethau a chyfleusterau a chyrchfannau ymwelwyr cyffredinol lefel uwch, ar gyfer dalgylch eang. Bydd y Canolfannau Aneddiadau Allweddol yn parhau i ddarparu rôl debyg, er ar raddfa lai ac yn gwasanaethu eu hardaloedd priodol yn RhCT.

Mae'r Canolfannau Aneddiadau Llai yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddiwallu anghenion siopa cyfleus dyddiol a darparu gwasanaethau llai eraill mewn cymunedau lleol. Disgwylir y bydd unrhyw gynigion yn y canolfannau hyn yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r polisi yma, er y cydnabyddir y byddai hyn ar raddfa gymesur.

Mae'r Canolfannau Aneddiadau yma ar y cyfan yn rhai sydd hefyd â darpariaeth dda o, a/neu gysylltiadau da ag amrywiaeth o ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy neu lwybrau teithio llesol presennol. Bydd llawer o ganolfannau yn gweld manteision y buddsoddiad sylweddol ym Metro De Cymru. Mae hyn i gyd yn amlwg yn cefnogi'r egwyddor o leihau dibyniaeth ar gerbydau modur preifat.

Yn ogystal, mae datblygiad preswyl yn ein Canolfannau Aneddiadau, neu ddull 'canol trefi yn gyntaf', yn ddyhead polisi cynllunio cenedlaethol allweddol. Bydd y polisi yma'n helpu i hyrwyddo ein canolfannau ar gyfer datblygiadau preswyl priodol, gan ddarparu amrywiaeth bellach, a'r opsiynau mwyaf cynaliadwy, yn y farchnad dai yn RhCT.

SP 9 - Twristiaeth

Mae'r polisi yma'n cefnogi Amcanion 6, 7, 14, 15, 16 a 18.

Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal sydd â threftadaeth gyfoethog ac asedau naturiol hardd, sy'n ei gwneud yn gyrchfan wych ar gyfer twristiaeth. Mae'r CDLlD yn ceisio tyfu'r sector twristiaeth yn RhCT trwy gefnogi datblygiad twristiaeth gynaliadwy mewn lleoliadau priodol.

Bydd y CDLlD yn cefnogi ac yn annog:

  • Datblygiadau twristiaeth a fydd yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt.
  • Cynigion twristiaeth antur, awyr agored ac 'eco', sy'n integreiddio i harddwch naturiol yr ardal.
  • Cynigion sy'n cefnogi ac yn gwella'r cynnig twristiaeth yn y Prif Aneddiadau a'r Aneddiadau Allweddol ac sy'n debygol o ychwanegu at eu bywiogrwydd a'u hyfywedd yn y dyfodol.
  • Arallgyfeirio busnesau amaethyddol a busnesau cefn gwlad eraill mewn modd priodol.

Bydd y CDLlD yn sicrhau bod cynigion twristiaeth:

  • Yn darparu seilwaith digonol fel eu bod ddim yn cael effaith andwyol annerbyniol ar gymunedau presennol.
  • Ddim yn cael effaith andwyol annerbyniol ar fioamrywiaeth, tirwedd neu nodweddion dynodedig eraill.
  • Ddim yn cael effaith andwyol annerbyniol ar nodweddion twristiaeth presennol na'u lleoliadau.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi rôl benodol ar gyfer ehangu'r diwydiant twristiaeth yn yr ASO, er mwyn caniatáu cyfle i arallgyfeirio yn yr economi yma. Mae Safle Allweddol a fydd yn ymgorffori cynigion ar sail twristiaeth, ymhlith defnyddiau eraill, wedi'i nodi ar hen safle Glofa'r Tŵr, Tir i'r De o Hirwaun.

Yn yr ASO, bydd cynigion ar gyfer llety twristiaeth y tu allan i ffin yr anheddiad yn amodol ar y meini prawf uchod. Yn yr ASDd bydd llety twristiaid yn cael ei gefnogi o fewn ffiniau'r anheddiad yn unig.

Bydd polisïau rheoli datblygu manwl pellach yn cael eu paratoi ar gyfer y Cynllun Adnau.

Bydd y CDLlD yn cefnogi nodau strategaeth Twristiaeth RhCT, sy'n ceisio cynyddu llety twristiaid a chefnogi cynigion sy'n hyrwyddo teithiau twristiaeth estynedig.

Hoffai'r CDLlD adeiladu ar lwyddiannau'r sector yma i weld cynnig twristiaeth ehangach i RhCT.

Mae gan ogledd a de RhCT nodweddion tra gwahanol, sy'n golygu bod angen dull gwahanol o ymdrin â thwristiaeth yn unol â'u hardaloedd strategaeth priodol. Mae ardal y strategaeth ogleddol gyda'i nodweddion tirwedd naturiol o ansawdd uchel, ei diwylliant a'i hanes yn golygu ei bod mewn sefyllfa briodol i ddarparu cynnig twristiaeth o ansawdd uchel. Mae'r ardal wedi gweld twf yn y sector twristiaeth dros y blynyddoedd diwethaf gydag agoriad ac ehangiad tŵr Zip World ac atyniad poblogaidd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae llwybrau cerdded a beicio yn denu defnydd a chyfleoedd twristiaeth sylweddol i'r ardal. Mae'r ardal yma hefyd yn cael ei gwella'n sylweddol o ran seilwaith drwy wneud yr A465 yn ffordd ddeuol, a chynllun Metro De Cymru i'w gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn gyfleuster sefydledig yn rhan isaf Cwm Rhondda.

Trwy annog ehangu'r cynnig twristiaeth a diwydiant yn yr ASO, bwriad y Strategaeth a Ffefrir yw y bydd yn gallu cynnig arallgyfeirio'r economi a chreu swyddi y mae mawr eu hangen. O'r herwydd, y dull a ddefnyddir yn yr yr ASO yw annog datblygiad diwydiant twristiaeth gynaliadwy, sy'n adeiladu ar y cynnig twristiaeth presennol. Bydd y CDLlD yn ceisio sicrhau bod y gogledd yn creu sector twristiaeth sy'n denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol.

Mae gan yr Ardal Strategol Ddeheuol hefyd rai cyrchfannau twristiaeth mwy sy'n bodoli eisoes gan gynnwys Prif Anheddiad Pontypridd, gyda'i gyfleusterau megis Lido Cenedlaethol Cymru, a Phrofiad y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant; ynghyd ag eraill ar raddfa lai, gan gynnwys ei thirweddau deniadol, sy'n denu o ddalgylch mwy lleol. Cydnabyddir hefyd bod yr ASDd yn chwarae rhan wrth ddarparu ar gyfer y galw am y rhai sy'n ymweld â Chaerdydd. Bydd twristiaeth yn ardal y strategaeth yma'n cael ei chefnogi'n ofalus i sicrhau bod ein cynigion twristiaeth presennol yn cael eu hehangu'n gynaliadwy yn yr ASDd.

Mae'r CDLlD yn cefnogi ac yn annog trosi ac ailddefnyddio adeiladau ac asedau hanesyddol a threftadaeth at ddefnydd twristiaeth yn ein Prif Drefi a'n Aneddiadau Allweddol. Bydd hyn yn sicrhau dyfodol yr asedau gwerthfawr yma ond hefyd yn dod â budd i'r amgylchedd adeiledig a'r cymunedau presennol yma fel ei gilydd, a fydd yn eu tro yn denu mwy o ymwelwyr.

Mae'r diwydiant twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig yn Rhondda Cynon Taf; o ganlyniad, bydd y Cyngor yn annog cynigion sy'n gwella'r cynnig twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn cynnwys darparu llety twristiaeth, ehangu cwmpas y cynnig twristiaeth a gwella profiad yr ymwelydd.

Mae twristiaeth yn sector pwysig sy'n tyfu i Rondda Cynon Taf. Fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'n sector â blaenoriaeth i Gymru yn gyffredinol, gan gyfrif am 9% o swyddi yn y wlad. Mae Strategaeth Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf yn amcangyfrif bod twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol yn werth dros £179 miliwn i'r economi leol. Oherwydd hyn, mae'r strategaeth yn datgan: "mae'n hanfodol bod cymunedau  yn effro i bwysigrwydd manteisio ar fwy o ymwelwyr a busnesau lleol yn datblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i'r sector gwasanaethau cwsmeriaid a thwristiaeth"  (CBSRhCT, 2021, t10). Mae hyn yn cael ei gefnogi gan Gynllun Corfforaethol y Cyngor (2020-2024) Gwneud Gwahaniaeth a'r Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ein Cwm Taf. Mae'r cynlluniau'n cydnabod pwysigrwydd datblygu'r cynnig twristiaeth, tra'n cefnogi busnesau yn y rhanbarth a chydnabod bod cryfder y cynnig i ymwelwyr yn RhCT yn deillio o'n cymunedau lleol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig